Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, Dirprwy Weinidog Iechyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Gofal wedi'i Gynllunio wedi’i chreu i helpu GIG Cymru i ddarparu gwasanaethau cynaliadwy. Mae angen i ni ailddylunio gwasanaethau sy’n canolbwyntio’n ddiamwys ar ansawdd a gwella canlyniadau a phrofiadau cleifion. Mae hynny’n golygu darparu gwasanaeth sy’n cydbwyso capasiti a’r galw a hynny yn seiliedig ar y dystiolaeth glinigol orau sydd ar gael.  
Ers ei datblygu yn 2014, mae'r rhaglen hon sy'n cael ei harwain gan glinigwyr wedi canolbwyntio ar bedwar maes – offthalmoleg, orthopedeg, y Glust, y Trwyn a'r Gwddf ac wroleg. Dyma bedwar arbenigedd clinigol prysur lle rydym yn ymwybodol bod modd gwneud rhagor i ddiwygio'r ffordd y caiff gofal ei ddarparu – mewn cymunedau lleol ac ysbytai – yn seiliedig ar egwyddorion gofal iechyd darbodus. 
Mae cynlluniau wedi'u datblygu ar gyfer pob un o'r pedwar arbenigedd hwn, gyda'r bwriad o wella profiad cleifion a darparu gwasanaethau cynaliadwy erbyn 2020. Byddant yn gwneud hyn trwy sicrhau bod y GIG yn gofalu am y rheini sydd â'r anghenion mwyaf yn gyntaf, gan ymgymryd â'r nifer lleiaf o ymyriadau priodol wrth ganolbwyntio ar nifer llai o feysydd gydag effaith a chanlyniadau gwell.   Yn dilyn penodi arweinydd clinigol y rhaglen, sef Peter Lewis, a chadeiryddion y byrddau arbenigol, mae'r cynlluniau gweithredu offthalmoleg, orthopedeg a'r Glust, y Trwyn a'r Gwddf wedi'u cyhoeddi, a chyhoeddwyd y cynllun gweithredu wroleg ar 14 Mawrth 2016. 
Mae'r cynlluniau'n annog clinigwyr ym mhob un o'r pedwar arbenigedd i roi'r gorau i gynnal rhai triniaethau nad ydynt o fudd i gleifion. Gelwir y rhain yn ymyriadau "peidiwch â gwneud". Mae hyn yn unol â'r egwyddorion gofal iechyd darbodus o wneud dim ond beth sydd ei angen a gwneud dim niwed. Bydd y cynlluniau'n sicrhau nad yw byrddau iechyd yn ymgymryd â thriniaethau y mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) wedi cynghori na ddylid eu cyflawni – gelwir y rhain yn ymyriadau na chânt eu cynnal fel arfer. 
Er enghraifft, mae cynllun y Glust, y Trwyn a'r Gwddf yn ei gwneud yn ofynnol i gydymffurfio â'r canllawiau cenedlaethol ar drothwyon llawdriniaeth i dynnu tonsiliau, sy'n seiliedig ar nifer yr achosion o donsilitis. Mae'r cynllun wroleg yn cynnwys newid i'r canllawiau ar gyfer cleifion sydd â chanser y bledren risg isel neu ganolig sy'n cael systosgopi, a fydd yn lleihau nifer y triniaethau diangen sy'n cael eu cynnal. 
Gall ffactorau sy'n ymwneud â ffordd o fyw effeithio'n negyddol ar ganlyniadau rhai llawdriniaethau cyffredin. Mae'n hysbys, er enghraifft, bod smygu yn effeithio ar ganlyniadau rhai triniaethau i'r droed a'r pigwrn, ac mae nifer o astudiaethau wedi dangos bod cleifion sy'n smygu neu dros bwysau â chyfraddau uwch o gymhlethdodau ar ôl y driniaeth ac yn aros am fwy o amser yn yr ysbyty. 
Dan y cynlluniau newydd, bydd pobl sy'n smygu neu sydd â mynegai màs y corff o 35 neu drosodd yn cael cymorth i roi'r gorau i smygu neu golli pwysau cyn cael llawdriniaeth. Bydd gofyn i fyrddau iechyd ddarparu amrywiol wasanaethau cymorth addas a threfn atgyfeirio briodol i'w cleifion.
Lle bynnag y bo'n bosibl, bwriad y cynllun yw gwneud y defnydd mwyaf priodol o'r gwasanaethau gofal sylfaenol gan wella profiad cleifion. Bydd mesurau newydd yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau mai'r cleifion cywir yn unig sy'n cael eu rheoli gan wasanaethau ysbyty dan arweiniad meddyg, gyda'r mwyafrif helaeth o gleifion yn cael eu gweld trwy wasanaethau yn y gymuned. Er enghraifft, bydd byrddau iechyd yn sefydlu gwasanaethau awdioleg yn y gymuned sy'n gallu rheoli atgyfeiriadau uniongyrchol o ofal sylfaenol ar gyfer colli clyw, tinitws a theimlo'n benysgafn neu bendro.
Bydd canolfannau triniaeth ddiagnostig offthalmoleg hefyd yn cael eu sefydlu. Bydd hyn yn galluogi clinigau a gwasanaethau sydd ar hyn o bryd yn cael eu cynnal mewn ysbytai i gael eu symud i'r cymunedau lleol. Bydd y canolfannau hyn yn lleihau'r galw ar wasanaethau ysbytai, yn lleihau'r oedi cyn cael apwyntiadau dilynol ac yn sicrhau y caiff pobl driniaeth yn brydlon. Cânt eu cefnogi gan dîm aml-ddisgyblaethol a fydd yn cynnwys offthalmolegwyr, ymarferwyr nyrsio ac optometryddion.
Bwriad y cynlluniau, lle bynnag y bo'n bosibl, yw lleihau'r amrywiaeth ledled Cymru. Rydym yn gwybod bod amrywiaeth ar hyn o bryd ym maes orthopedeg o ran nifer yr apwyntiadau dilynol sy'n cael eu cynnig yn dilyn llawdriniaeth. Bydd disgwyl i fyrddau iechyd bellach gomisiynu un apwyntiad dilynol ar ôl llawdriniaeth i osod clun neu ben-glin newydd, rhwng chwe wythnos a thri mis ar ôl y llawdriniaeth ac eithrio dan amgylchiadau eithriadol. Mae hyn yn arfer cyffredin yng ngwasanaethau iechyd eraill y DU. Ni ddylid parhau i’w gweld fel cleifion allanol yn gyffredinol ar ôl hyn.
Mae ymrwymiad yn yr holl gynlluniau y dylid trefnu apwyntiadau dilynol lle bo'n gwbl angenrheidiol yn unig. Bydd hyn yn rhyddhau amser meddygon i drin mwy o gleifion. Lle bo angen apwyntiad dilynol fel claf allanol, bydd clinigwyr fwyfwy yn defnyddio technoleg i gynnal apwyntiadau rhithwir lle bo'n ddiogel ac yn briodol gwneud hynny.  Bydd grwpiau gofal ar y cyd – rhwng ysbytai, gofal cymunedol a sylfaenol – yn cael eu sefydlu i rymuso pobl i reoli'u hiechyd eu hunain a bydd profiad a chanlyniadau cleifion yn cael eu nodi trwy ddefnyddio holiaduron mesurau profiadau yn ôl y claf (PREMs) a mesurau canlyniadau a adroddwyd gan gleifion (PROMs) sydd wedi'u datblygu ym mhob un o'r arbenigeddau. Bydd y rhain yn cael eu cyflwyno ledled y byrddau iechyd yn ddiweddarach eleni. Agwedd bwysig arall o'r cynllun fydd datblygu mesurau canlyniadau a adroddwyd gan gleifion – sy'n caniatáu i fyrddau iechyd ddeall y canlyniadau i gleifion ar ôl llawdriniaeth, a llunio adroddiadau.   Ar hyn o bryd nid oes ffordd safonol o ddeall pa mor effeithiol y bu ymyriadau gan y gwasanaeth iechyd yn y pedwar maes hwn, ac a yw'r canlyniadau yn cyd-fynd â disgwyliadau'r cleifion. Wrth ddatblygu'r mesurau newydd hyn a'u rhoi ar waith, bydd modd i ysbytai Cymru gymharu eu hunain ag ysbytai eraill. Mae'r Rhaglen Gofal wedi'i Gynllunio yn gweithio gyda byrddau iechyd ac yn eu cefnogi i weithredu'r camau i wella canlyniadau cleifion ym mhob un o’r cynlluniau arbenigol. Wrth wneud hyn, mae'n rhannu arferion gorau ledled y byrddau iechyd a'r arbenigeddau gan sicrhau y caiff yr holl newidiadau eu mewnosod yn llawn, a'u bod yn gynaliadwy. Mae hyn yn atgyfnerthu ein hymrwymiad y bydd ansawdd yn parhau i fod yn ganolog i GIG Cymru yn awr ac yn y dyfodol.