Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’n ofyniad statudol o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013 i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru gyflwyno Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg (CSGA). Pan ddaeth drafft o gynlluniau 2017-20 i law y cyn-Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, penderfynwyd bod angen gwneud rhagor o waith am nad oeddent yn dangos uchelgais ddigonol i gyflawni Strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr.

Er mwyn hwyluso’r twf, cyhoeddais grant cyfalaf ychwanegol i’r awdurdodau lleol yn gynharach eleni. Rwyf yn falch iawn o’r safon a’r weledigaeth a welwyd yn y ceisiadau a ddaeth i law, ac ar sail hynny, mae’n bleser gen i gyhoeddi cyfanswm o £46m o wariant cyfalaf i gefnogi twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae hyn yn cynnwys arian ychwanegol trwy’r Rhaglen Gyfalaf Cynnig Gofal Plant. Drwy gyfuno’r cyllid o dan y Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg a Grant Cyfalaf y Cynnig Gofal Plant rydyn ni wedi gallu sicrhau’r manteision mwyaf o’n buddsoddiadau o dan y ddwy raglen er mwyn annog twf a darpariaeth mewn dau faes pwysig. Bydd y buddsoddiad o £46m yn cefnogi 41 prosiect ar draws 16 awdurdod lleol gan greu 2818  o lefydd ysgol a gofal plant ychwanegol ar gyfer dysgwyr cyfrwng Cymraeg. Mae hyn ar ben y £5 miliwn a gyhoeddwyd i Bantycelyn yn gynharach eleni  gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, cyfanswm o £51 miliwn i gefnogi  addysg Gymraeg.

Cymeradwywyd nifer o’r Cynlluniau Strategol ym mis Mawrth eleni. Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi ystyriaeth fanwl i’r Cynlluniau Strategol diwygiedig sydd yn weddill ac bellach wedi cymeradwyo cynlluniau y Siroedd isod:-

  • Castell-nedd Port Talbot
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Merthyr Tudful
  • Mynwy
  • Torfaen
Mae’r cynnydd a welir ers ailgyflwyno y CSGA diwygiedig yn rhoi sail i fwrw mlaen.  Mae’r siroedd hynny sydd wedi’u cymeradwyo i gyd wedi ymrwymo i gefnogi twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn eu cynlluniau yn unol â Cymraeg 2050. Er nad ydym wedi cyflawni’r broses gymeradwyo gydag awdurdod lleol Casnewydd, rwyf yn hapus bod y trafodaethau yn mynd i’r perwyl cywir. Hoffwn ddiolch i’r holl awdurdodau lleol am eu cydweithrediad.

Mae’r cynlluniau diwygiedig a’r arian cyfalaf ychwanegol yn rhoi platfform gadarn i symud ymlaen a sicrhau twf mewn addysg Gymraeg yn unol â thargedau strategol y Llywodraeth. Rwyf yn hyderus y bydd y sylfeini a osodir yma yn atgyfnerthu’r sector addysg Gymraeg sydd yn hanfodol i weithredu gweledigaeth Cymraeg 2050.