Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Medi 2017, dechreusom gyflwyno ein Cynnig Gofal Plant mewn saith awdurdod ledled Cymru a oedd yn weithredwyr cynnar.  Mae ein cynnig yn un uchelgeisiol, sef ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddarparu 30 awr o addysg gynnar a gofal ar gyfer plant tair a phedair oed, os yw eu rhieni yn gweithio, am 48 wythnos y flwyddyn.  Mae'r rhaglen gweithredu cynnar yn hanfodol er mwyn sicrhau y bydd y cynnig yn diwallu anghenion plant, rhieni a darparwyr unwaith y caiff ei gyflwyno ledled cymru ym mis Medi 2020.    

Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad ar y cynnydd a wnaed ymhlith ein gweithredwyr cynnar, ac amlinellu rhai o'n camau nesaf wrth ddatblygu'r cynnig.

Mae'r cynnig yn cael ei weithredu'n gynnar yn Ynys Môn, Gwynedd, Blaenau Gwent, Caerffili, Sir y Fflint, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe.   Tan nawr, Blaenau Gwent yw'r unig awdurdod lleol sydd wedi treialu'r cynnig ym mhob rhan o'r awdurdod.  Yn y lleill, mae'r cynnig wedi bod ar gael mewn rhai ardaloedd, sydd wedi ein galluogi i brofi amrywiaeth o elfennau a phroblemau sy'n cael effaith ar y cynllun ac ar y nifer sy'n ei ddefnyddio.  Bydd yn bwysig inni ddysgu gan y gweithredwyr cynnar hyn er mwyn gallu mireinio ein polisïau a’n systemau cyn eu cyflwyno’n ehangach.  Yn ôl ym mis Awst 2017, penodwyd NatCen ac Arad i gynnal gwerthusiad trwyadl ac annibynnol o'r gweithredu cynnar.  Bydd eu canfyddiadau yn help wrth weithredu'r cynnig yn y dyfodol.  

Mae rhieni newydd yn parhau i wneud cais am y cynnig gofal plant. Daeth 959 o geisiadau newydd i law yn ystod tymor y gwanwyn. Yn gyffredinol, mae'r adborth gan rieni cymwys sy'n manteisio ar y cynnig a chan ddarparwyr y gofal plant wedi bod yn gadarnhaol, ac mae'r awdurdodau lleol sy'n weithredwyr cynnar yn parhau i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o'r cynnig.

Ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddais y byddem yn ehangu'r ardaloedd cymwys o fewn yr awdurdodau lleol sy'n weithredwyr cynnar.Erbyn hyn, rydym o'r farn bod yna achos cryf dros ehangu ymhellach, ac rwy'n falch o gael rhoi gwybod i'r aelodau ein bod yn bwriadu cynnwys yr ardaloedd canlynol dros y misoedd nesaf:

Awdurdod Lleol

Ardaloedd Ehangu

Ynys Môn

Ar gael ar draws yr awdurdod lleol o fis Ebrill 2018. 

Gwynedd

Ar gael ar draws yr awdurdod lleol o fis Ebrill 2018.

Caerffili

Ar gael ar draws yr awdurdod lleol o fis Ebrill 2018.

Rhondda Cynon Taf

Cynnwys wardiau Brynna, Llanharan, Llanhari, Tonysguboriau,   Trefforest, Y Graig, Canol Rhydfelen, Fynnon Taf, Trallwng, a Y Ddraenen Wen ar unwaith.

Cynnwys holl ardaloedd eraill yr awdurdod erbyn Medi 2018. 

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r awdurdodau lleol sy'n weithredwyr cynnar am eu hymdrechion gyda'r cynnig gofal plant hyd yn hyn.  Hoffwn ddiolch hefyd i'r sector gofal plant am eu cefnogaeth, ac am fod mor gadarnhaol yn eu gwaith gyda ni i sicrhau bod yna ymwybyddiaeth o'r cynnig.  Mae ail gam ein hymgyrch #TrafodGofalPlant yn golygu trafod ymhellach gyda darparwyr gofal plant drwy holiaduron ar-lein, grwpiau ffocws ac ymgynghori uniongyrchol.

Rydym wedi ymrwymo i roi’r Cynnig Gofal Plant ar waith yn llawn erbyn mis Medi 2020.  Bydd swm y cyllid i gefnogi’r cynnig yn cynyddu i £25m yn 2018-19, ac i £45m yn 2019-20.  Bydd hyn yn caniatáu inni ehangu a phrofi rhai agweddau ar ddarparu’r cynnig mewn awdurdodau lleol newydd o fis Medi 2018 ymlaen.  Rhoddaf fwy o wybodaeth i'r aelodau maes o law ar raglen dreigl i weithredu'r cynnig gofal plant yn gynnar ymhellach ledled Cymru.  

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.