Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi lansio 'Porthol Brexit' Busnes Cymru’ - gwefan sydd wedi'i chynllunio'n benodol i helpu busnesau wrth iddynt baratoi ar gyfer y newidiadau a'r heriau sy'n codi o'r penderfyniad i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

Mae dau nod allweddol i'r Porthol:

Yn gyntaf, darparu gwybodaeth ddiweddar a chyngor ar amrywiol bynciau busnes perthnasol (gan gynnwys masnachu yn rhyngwladol a chynllunio y gweithlu) wrth inni ddechrau ar y cyfnod o chwe mis sy'n arwain at weld y DU yn ymadael â'r UE.

Yn ail, darparu dull diagnostig fydd yn gwella ein cymorth presennol i fusnesau, yn codi ymwybyddiaeth o gamau paratoi priodol a ffynonellau cymorth ychwanegol. Bydd hyn yn darparu gwiriad iechyd i'r busnesau hynny sydd eisoes wedi paratoi neu nodi'r prif gamau i'r rhai hynny sydd o bosibl angen mwy o gymorth.

Mae Porthol Brexit (y Porthol) yn rhan o'r ystyriaeth ehangach o'r cytundeb cyllideb dwy flynedd rhwng Llywodraeth Cymru a Plaid Cymru i gynorthwyo busnesau i baratoi at Brexit.
Gan ein bod yn Llywodraeth gyfrifol mae’n gwaith cynllunio ar gyfer Brexit yn cynyddu a byddwn yn parhau i gynllunio ar gyfer pob canlyniad posibl. Nod y Porthol yw adeiladu ar yr wybodaeth, y cyngor a'r canllawiau a ddarperir gan Busnes Cymru i gefnogi busnesau i baratoi ar gyfer Brexit.

Cafodd y cysyniad a'r fanyleb ar gyfer y Porthol ei ddatblygu drwy is-grŵp Brexit y Cyngor Datblygu Economaidd - Gweithgor Ymadael â'r UE.

Mae datblygu'r Porthol wedi ystyried y gwaith ymchwil a'r dystiolaeth ar ofynion cymorth busnes yn ogystal ag arferion da o leoedd eraill gan gynnwys Iwerddon.

Mae'r Porthol yn ddatblygiad o adran Holi ac Ateb presennol Brexit ar wefan Busnes Cymru, ac yn cynnwys dolenni at hysbysiadau cyngor technegol Llywodraeth y DU ar y sefyllfa o ymadael heb drefnu bargen.

I weld y Porthol, cliciwch ar y ddolen hon: https://businesswales.gov.wales/brexit/cy