Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 7 Ebrill 2016.

Cyfnod ymgynghori:
15 Ionawr 2016 i 7 Ebrill 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Ymateb y llywodraeth , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 548 KB

PDF
548 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym yn ymgynghori ar y cyd ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), Asiantaeth yr Amgylchedd (EA) a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar ein dull o gynnwys eithriadau tynnu dŵr o fewn y system drwyddedu.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i’r rhai sy’n tynnu dŵr yng Nghymru a Lloegr.

Rydym am sicrhau bod dŵr yn cael ei reoli’n gynaliadwy am yr hirdymor yng Nghymru nawr ac am genedlaethau i ddod. Fel y nodir yn ein Strategaeth Ddŵr i Gymru mae hyn yn golygu bod angen cynnwys rhai o’r eithriadau tynnu dŵr o fewn y system drwyddedu. Cafodd system drwyddedu tynnu dŵr Cymru a Lloegr ei datblygu dros ddegawdau ond mae rhai wedi’u heithrio o’r system drwyddedu.

Dyma rhai o'r gweithgareddau a fydd yn cael eu heffeithio gan y cynigion hyn:

  • Trosglwyddiadau dŵr megis y rhai a gyflawnir gan Awdurdodau Mordwyo Awdurdodau Harbwr neu sefydliadau Cadwraeth
  • Dad-ddyfrio fel sy’n digwydd mewn chwareli mwyngloddiau neu safleoedd adeiladu
  • Dyfrhau trwy ddiferion a dyfrleidio (warping) mewn amaethyddiaeth a ffermio.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn nodi ein nodau a’n cynigion i:

  • ymateb yn effeithiol i’r galw am dŵr yn y dyfodol
  • galluogi’r Rheoleiddiwr (CNC a’r EA) I reoli adnoddau dŵr yn effeithiol ar lefel y dalgylchoedd
  • rheoli dŵr mewn ffordd deg a chynhwysfawr
  • datblygu system integredig o reoli adnoddau dŵr sy’n gallu diwallu anghenion y presennol a chenedlaethau’r dyfodol.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 873 KB

PDF
873 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.