Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 5 Gorffennaf 2012.

Cyfnod ymgynghori:
6 Mawrth 2012 i 5 Gorffennaf 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb o’r canlyniad

Mae adroddiad ymatebion i'r ymgynghoriad hwn bellach ar gael ar wefan Prosiect CEM yr M4 (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ynglŷn â'i hymagwedd at ddatrys problemau'n gysylltiedig â thrafnidiaeth sy'n effeithio ar ardal Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd yn Ne Ddwyrain Cymru.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae pobl sy’n defnyddio Coridor yr M4 a’r rhwydwaith priffyrdd yn y cylch yn ymwybodol o’r tagfeydd a’r peryglon posibl sy’n deillio o’r nifer fawr o gerbydau sy’n defnyddio’r M4. Ar adegau prysur mae mwy o draffig yn defnyddio’r ffordd nag y dyluniwyd y ffordd i ymdopi ag ef. Mae teithwyr hefyd yn sylwi ar y tarfu sy’n cael ei achosi gan ddigwyddiadau a phethau annisgwyl. Gall gymryd gryn amser ar ôl digwyddiad cyn y bydd y traffig yn gallu llifo fel arfer eto; mae hyn yn dweud wrthym fod angen gwella cadernid yr M4 a’r rhwydwaith priffyrdd yn y cylch.

Dechreuodd y trafod dros flwyddyn yn ôl gyda phobl sy’n defnyddio ac yn rheoli’r rhwydwaith trafnidiaeth a/neu sy’n defnyddio gwasanaethau yng Nghoridor yr M4 rhwng Magwyr a Chas-bach ac mae eisoes wedi dylanwadu ar yr hyn a gyflwynir fel rhan o’r Ymgynghoriad hwn. Os ydych chi wedi bod yn rhan o’r gwaith i’n helpu ni i lunio Raglen Mesurau Gwella Coridor yr M4 diolch i chi!

Mae trafnidiaeth a mynediad i wasanaethau cartrefi gwaith a hamdden yn faterion sy’n effeithio ar bawb ohonom a gobeithiwn y bydd unrhyw un sy’n byw yn gweithio ac yn teithio drwy ardal Casnewydd yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn.

Dogfennau ymgynghori

Advertisement , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Consultation newsletter , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 620 KB

PDF
620 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

M4 consultation: come and find out more , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 740 KB

PDF
740 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.