Neidio i'r prif gynnwy

Mwy o wybodaeth ar gael am newidiadau i’n telerau ac amodau wrth ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn adborth gan ein cwsmeriaid, rydyn ni wedi gwneud nifer o newidiadau i delerau ac amodau ein gwasanaethau ar-lein. Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar 15 Hydref 2018. Mae’r telerau ac amodau presennol i’w gweld yma. Bydd y telerau ac amodau wedi’u diweddaru i’w gweld ar y dudalen yma o 15 Hydref 2018 ymlaen a dylech adolygu’r rhain cyn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein. I grynhoi, dyma'r newidiadau rydyn ni wedi’u gwneud:

  • o dan adran 5.3 tynnu “rydych yn cydnabod ac yn cytuno mai chi fydd yn gyfrifol yn y pen draw am gynnwys a gweinyddu unrhyw gyflwyniadau a gyflwynir ar eich rhan.”
  • newid i adran 8 i adlewyrchu mai dim ond i’r wybodaeth a ddarperir gan asiantau yn ystod y broses gofrestru fydd yr adran hon yn berthnasol nawr, ac nid i’r wybodaeth sy’n cael ei chyflwyno wrth lenwi ffurflenni. Ar ôl cynnal adolygiad rydym yn teimlo bod y datganiad ar ddiwedd y ffurflen ar-lein yn darparu digon o sicrwydd ynghylch yr wybodaeth sydd wedi’i darparu drwy’r ffurflen. 
  • newid i adran 14.1 i adlewyrchu cyflwyno deddfwriaeth y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.