Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Enwebwyr

Mae Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru yn anrhydeddu cyflawniadau athrawon a darlithwyr ar hyd a lled y wlad. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd ei rhwymedigaethau ynghylch gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae'r ddogfen hon yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru (fel rheolwyr data) yn prosesu'r data personol yr ydych yn eu cyflwyno trwy gydol y broses Gwobrwyo. Bydd unrhyw ddata personol yn cael eu prosesu er budd y cyhoedd ac wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom ni.

Byddwn bob amser yn sicrhau bod unrhyw ddata personol a dderbyniwn mewn perthynas â'r Gwobrau'n cael eu storio'n ddiogel ac yn cael eu gweld yn unig gan y bobl hynny sy'n ymwneud â phrosesu'r enwebiad mewn perthynas â Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru megis swyddogion Llywodraeth Cymru a chontractwyr penodedig sy'n rhan o'r broses enwebu.

Bydd y data personol yn cael eu cadw am ddeuddeng mis yn dilyn dyfarnu’r Gwobrau a byddant yn cael eu dileu ar ôl hynny.

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael mynediad at y data Personol yr ydym yn eu prosesu amdanoch chi;
  • i ofyn i ni gywiro anghywirdebau yn y data hynny;
  • i wrthwynebu prosesu (mewn rhai amgylchiadau);
  • i'ch data gael eu dileu (mewn rhai amgylchiadau)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: www.ico.org.uk

Am wybodaeth bellach am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei dal a'i defnydd, neu os hoffech ymarfer eich hawliau o dan y GDPR, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales

Enwebeion

Mae Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru yn anrhydeddu cyflawniadau athrawon a darlithwyr ar hyd a lled y wlad. Mae yna 10 Gwobr Addysgu Proffesiynol, y mae pob un ohonynt yn cael eu henwebu gan y cyhoedd i gydnabod ymrwymiad, ymroddiad a gwaith caled athrawon a gweithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru.

Fel rhan o'r broses enwebu, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn manylion eich enw, teitl eich swydd a chyfeiriad e-bost gwaith, enw'r ysgol/coleg, cyfeiriad yr ysgol/coleg, rhif ffôn yr ysgol/coleg, ac e-bost yr ysgol/coleg. Cysylltir â'ch pennaeth / rheolwr hefyd am ragor o wybodaeth i gefnogi'r enwebiad. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd ei rhwymedigaethau ynghylch gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae'r ddogfen hon yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru (fel rheolwyr data) yn prosesu eich data personol trwy gydol y broses Gwobrwyo. Bydd unrhyw ddata personol yn cael eu prosesu er budd y cyhoedd ac wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom ni.

Byddwn bob amser yn sicrhau bod unrhyw ddata personol a dderbyniwn mewn perthynas â'r Gwobrau yn cael eu storio'n ddiogel ac yn cael ei gweld yn unig gan y bobl hynny sy'n ymwneud â phrosesu'r enwebiad mewn perthynas â Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru, megis swyddogion Llywodraeth Cymru a chontractwyr penodedig sy'n ymwneud â'r broses enwebu.

Os ydych chi yn y rownd derfynol, fe all eich data personol (ynghyd ag enw'ch ysgol/coleg) gael eu prosesu yng nghyd-destun cysylltiadau cyhoeddus a chyfleoedd i'r wasg (cyn ac ar ôl digwyddiad). Bydd y rhain yn cynnwys ffotograffiaeth, cyfweliadau gyda’r cyfryngau, defnyddio eich astudiaeth achos / stori mewn unrhyw gysylltiadau cyhoeddus, fideo, y cyfryngau cymdeithasol, y teledu a'r wasg.

Bydd eich data personol yn cael eu cadw am ddeuddeng mis yn dilyn dyfarnu’r Gwobrau a byddant yn cael eu dileu ar ôl hynny.

Os hoffech dynnu'n ôl o'r broses ar unrhyw adeg, rhowch wybod i ni trwy gysylltu â gwobrauaddygsu@llyw.cymru. Yna byddwn yn dileu'r holl ddata personol yr ydym yn eu prosesu ar eich cyfer chi at ddibenion y Gwobrau.

Yn ogystal â hyn, o dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i’r canlynol:

  • cael mynediad at y data Personol yr ydym yn eu prosesu amdanoch chi;
  • ei gwneud yn ofynnol inni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw;
  • yr hawl (mewn rhai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu; yr hawl i gael eich data wedi eu 'dileu’;
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Telephone: 01625 545 745 or 0303 123 1113

Website: www.ico.org.uk

Am wybodaeth bellach am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei dal a'i defnydd, neu os hoffech ymarfer eich hawliau o dan y GDPR, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales