Neidio i'r prif gynnwy
Huw Irranca-Davies AS

Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

Cyfrifoldebau

  • Hyrwyddo datblygu cynaliadwy (yn unol â’r diffiniad yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol) a’r Nodau Datblygu Cynaliadwy
  • Cynllunio morol a chynllunio dŵr croyw, bioamrywiaeth, cadwraeth a thrwyddedu
  • Polisi ar y tir gorau a mwyaf amlbwrpas, cyngor ar adfer safleoedd mwynau a Dosbarthiad Tir Amaethyddol a gweithredu Rheoliadau Asesu'r Effaith Amgylcheddol (Amaethyddiaeth)
  • Sero Net, y newid yn yr hinsawdd, targedau lleihau allyriadau a chyllidebau carbon
  • Rheoli Adnoddau Naturiol, gan gynnwys goruchwylio a gweithredu Deddf yr Amgylchedd (Cymru) a Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Mesurau trawsbynciol ar gyfer lliniaru ac addasu yn sgil y newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys dŵr; draenio tir; risg llifogydd ac arfordirol; a rheoli llygredd morol ac aer
  • Dŵr
  • Diogelwch Cronfeydd Dŵr
  • Polisi a deddfwriaeth coedwigaeth, gan gynnwys ailstocio, iechyd coed a deunydd atgynhyrchu coedwigoedd
  • Y Goedwig Genedlaethol
  • Polisi bioamrywiaeth, gan gynnwys gweithredu'r Cynllun Adfer Natur
  • Rheoli adnoddau a gwastraff yn gynaliadwy
  • Ansawdd yr amgylchedd lleol, gan gynnwys sbwriel, tipio anghyfreithlon, y Cynllun Dychwelyd Ernes a Chyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig
  • Ansawdd yr amgylchedd lleol; polisi Sŵn a rheoleiddio Sŵn
  • Arwain yn strategol ar randiroedd a seilwaith gwyrdd trefol
  • Mannau Gwyrdd Cymunedol a thir comin
  • Mynediad at gefn gwlad, yr arfordir, hawliau tramwy a dyfrffyrdd/cyrff dŵr
  • Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol
  • Y Rhaglen Datblygu Gwledig
  • Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
  • Datblygu’r sector amaethyddol, gan gynnwys cyflogau a sgiliau
  • Datblygu’r sector bwyd-amaeth, cadwyni cyflenwi cysylltiedig, hyrwyddo a marchnata bwyd a diod o Gymru
  • Iechyd a lles anifeiliaid
  • Y Cynllun Dileu TB mewn Gwartheg
  • Polisi adnabod a symud da byw
  • Polisi cofrestru daliadau
  • Pysgodfeydd mewndirol, arfordirol a morol: rheoleiddio a gorfodi polisïau, a rheoli harbyrau pysgota
  • Pŵer i'w gwneud yn ofynnol i ddarparu gwybodaeth am bris cnydau
  • Gwarchod a rheoli bywyd gwyllt, gan gynnwys rheoli plâu, chwyn niweidiol a fermin a rheoleiddio iechyd planhigion, hadau a phlaladdwyr
  • Cnydau a addaswyd yn enetig
  • Cofrestru, Gwerthuso, Awdurdodi a Chyfyngu ar Gemegau (REACH) a’r polisi Cemegau

Bywgraffiad

Cafodd Huw ei eni a'i fagu yn Nhregŵyr ym Mhenrhyn Gŵyr - yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol cyntaf yn y DU. Roedd Tregŵyr ar y pryd yn gymysgedd o ddiwydiant dur, diwydiant trwm ac amaethyddiaeth, gan bontio cefn gwlad ac ardal drefol a diwydiannol, ac mae hyn wedi llunio ei agwedd gydol oes at wleidyddiaeth a pholisi. 

Pan oedd yn fachgen aeth i Ysgol Gyfun Tregŵyr. Aeth ymlaen i astudio ei radd gyntaf yng Ngholeg Crewe ac Alsager (BA Anrh) ac yn ddiweddarach graddiodd o Athrofa Addysg Uwch Abertawe gydag MSc mewn Rheoli Adnoddau Ewropeaidd.

Ar ôl priodi, symudodd ef a Joanna i gymoedd De Cymru lle maen nhw'n teimlo'n gartrefol iawn yng nghymunedau clos a chyfeillgar y cymoedd, ac wrth eu boddau’n archwilio'r dirwedd hanesyddol a hardd hon ar droed. Mae ganddynt dri mab sy'n oedolion, ac maent i gyd yn falch o'u gwreiddiau teuluol yng Nghymru a’r Eidal: mae eu cyfenw cyfunol Irranca-Davies yn dathlu'r cysylltiadau Cymreig-Eidalaidd hyn.

Yn gerddwr brwd (fel Is-lywydd Ramblers Cymru), yn badlwr canŵ ac yn "seiclwr bob dydd ar feic cefn syth", mae hefyd yn ymlacio drwy wylio'r rygbi neu drwy ddarllen nofelau hanesyddol (byth unrhyw beth gwleidyddol!) a garddio.

Cyn ymuno â’r byd gwleidyddol, gweithiodd Huw am flynyddoedd lawer ym maes rheoli hamdden yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ac fel Uwch Ddarlithydd mewn Addysg Uwch. Mewn isetholiad seneddol a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2002 cafodd ei ethol yn AS Llafur dros etholaeth Ogwr, sedd a ddaliodd tan 2016 pan ddewisodd sefyll fel Aelod Cynulliad dros Ogwr yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. I Huw roedd hyn yn arwydd pendant o hyder yn y sefydliadau democrataidd newydd a oedd yn cryfhau yng Nghymru. Cafodd ei ethol i'r Cynulliad - Senedd Cymru erbyn hyn - yn 2016.

Yn San Steffan bu Huw yn gwasanaethu mewn sawl rôl gan gynnwys fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Weinidogion yn yr Adran Gwaith a Phensiynau, Gogledd Iwerddon a'r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon; fel Chwip y Llywodraeth; fel Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru; ac fel Gweinidog yr Amgylchedd yn Defra.

O 2010 gwasanaethodd fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Ynni, ac yna fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Fwyd, Ffermio a Materion Gwledig. Ym mis Mai 2015, cafodd ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol, swydd a wnaeth tan fis Mai 2016 pan gafodd ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn y Bumed Senedd, ef oedd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol cyn iddo gael ei benodi yn Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol. Yna, ar gais y Prif Weinidog daeth yn Gadeirydd ar Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol Cymru, y Grŵp Cynghori Ewropeaidd a Phwyllgor Monitro'r Rhaglen, gan oruchwylio gwariant ffrydiau cyllido’r UE yng Nghymru.

Hyd nes iddo gael ei benodi yn Ysgrifennydd y Cabinet, bu'n Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ac yn aelod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith. Ymhlith ei gyfrifoldebau eraill, roedd hefyd yn Gadeirydd y Fforwm Strategol ar Fuddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru a'r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd. Cafodd Huw ei benodi'n Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar 21 Mawrth 2024.

Ysgrifennu at Huw Irranca-Davies