Neidio i'r prif gynnwy

Nid oes rheidrwydd ar awdurdodau lleol i ariannu cludiant ar gyfer dysgwyr ôl-16 ond gallant ystyried hyn yn ôl disgresiwn. Bydd hyn yn amrywio ar draws y rhanbarthau.

Efallai y byddwch yn gallu cael cludiant am ddim neu â chymhorthdal yn ystod eich cwrs os ydych:

  • dros 16 oed, yn astudio yn eich ysgol leol ac yn teithio dros bellter penodol i gyrraedd yno
  • 16 i 19 oed ac yn astudio'n llawn amser mewn coleg addysg bellach
  • 19 oed neu'n hŷn neu'n astudio'n rhan-amser

Os ydych mewn coleg addysg bellach, cysylltwch â'ch coleg a gofynnwch am siarad â'r tîm gwasanaethau myfyrwyr am help gyda chostau Trafnidiaeth.

Os ydych yn astudio yn chweched dosbarth yr ysgol, cysylltwch â'ch awdurdod lleol i weld a allant helpu.