Hannah Blythyn AS Y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol
Cynnwys
Cyfrifoldebau'r Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol.
Cynnwys
Cyfrifoldebau
- Gweithredu'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus a'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol
- Cyflog Byw
- Gwaith Teg
- Gweithio o bell
- Twristiaeth
- Y Sector Lletygarwch
- Y Sector Creadigol, gan gynnwys Cymru Greadigol
- Manwerthu
Bywgraffiad
Ym mis Tachwedd 2017 gofynnwyd i Hannah wasanaethu yn Llywodraeth Cymru yn y briff amgylcheddol. Ers hynny, mae Hannah wedi ymgymryd â rolau eraill yn y Llywodraeth ac ar hyn o bryd hi yw'r Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol, gan arwain ar ddeddfwriaeth arloesol i roi sylfaen ffurfiol i bartneriaeth gymdeithasol yng Nghymru. Mae Hannah wedi bod yn weithgar yn y mudiad llafur a gwleidyddiaeth ddemocrataidd ers nifer o flynyddoedd, gan helpu i lunio polisïau er budd gweithwyr. Yn undebwr llafur balch, cyn cael ei hethol, bu Hannah yn arwain ar waith gwleidyddol a pholisi i Unite yng Nghymru, gan arwain ar nifer o ymgyrchoedd llwyddiannus, gan gynnwys: gweithredu ar gosbrestru; gwell cyfiawnder i ddioddefwyr clefydau cysylltiedig ag asbestos; diogelu gweithwyr gwledig yng Nghymru a mynd i'r afael â hunangyflogaeth ffug.
Mae Hannah hefyd yn gyn-gadeirydd cangen LHDT Llafur ac roedd yn weithgar yn yr ymgyrch dros briodasau cyfartal. Mae hi bellach yn falch o arwain ar waith Llywodraeth Cymru i wneud Cymru y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop. Y tu allan i'r gwaith, mae Hannah yn hoffi treulio amser yn yr awyr agored gyda'i chi, gan wneud y gorau o'r cyfan sydd gan ein cymunedau a'n gwlad i’w gynnig.
Roedd yn arfer bod yn seiclwr brwd ac un tro cymerodd ran mewn taith feicio elusennol ar draws Kenya.