Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n cydnabod llwyddiant unigolion, cyflogwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith mewn 7 dosbarth gwahanol.

Categorïau

Bydd Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n cydnabod llwyddiant unigolion, cyflogwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith mewn 9 dosbarth gwahanol.

Prentisiaethau – Dysgwr

  • Prentis Sylfaen y Flwyddyn
  • Prentis y Flwyddyn
  • Prentis Uwch y Flwyddyn
  • Doniau Yfory

Prentisiaethau – Cyflogwr

  • Cyflogwr Bach a Chanolig y Flwyddyn (1-249 o weithwyr)
  • Cyflogwr Mawr a Macro-gyflogwr y Flwyddyn (250-5000+ o weithwyr)

Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith

  • Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith

Yn ogystal â’r gwobrau yn y dosbarthiadau uchod, mae’r Beirniaid yn cadw’r hawl i roi Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig y Beirniaid gyda’r nod o gydnabod rhagoriaeth mewn unrhyw agwedd ar gyflenwi rhaglenni Cyflogadwyedd a Phrentisiaethau nad yw’n dod yn uniongyrchol o dan Feini Prawf y Gwobrau.

Dyddiadau allweddol

Dechrau’r cyfnod ymgeisio

9 Mai 2023

Dyddiad cau

7 Gorffennaf 2023 (hanner dydd)

Cyhoeddi'r rhestr fer

16 Tachwedd 2023

Seremoni wobrwyo

22 Mawrth 2024

Amodau a thelerau ymgeisio

  • Rhaid cyflwyno pob ffurflen gais erbyn 12 o’r gloch, hanner dydd, Amser Haf Prydain (BST) ar 7 Gorffennaf 2023. Sylwch: Caiff y ffurflenni cais eu tynnu oddi ar lein yn awtomatig ar yr amser uchod a bydd unrhyw ddolenni a anfonwyd atoch cyn hynny yn stopio gweithio.
  • Dim ond un ffurflen gais y cewch ei hanfon ar gyfer pob ymgeisydd; ni fydd unrhyw geisiadau dilynol a anfonir ar gyfer yr ymgeisydd hwnnw yn cael eu derbyn.
  • Bydd angen i’r rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol sicrhau eu bod ar gael at ddibenion cyhoeddusrwydd (ffotograffau, ffilmio a datblygu astudiaethau achos) lle bo’n briodol a bod modd gwneud hynny’n ddiogel, drwy gydol mis Medi, mis Hydref a mis Techwedd 2023.
  • Bydd angen i’r rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol sicrhau eu bod yn gallu cymryd rhan mewn Seremoni Wobrwyo ar 22 Mawrth 2024. Os bydd amgylchiadau annisgwyl yn codi, gall cynrychiolydd gymryd rhan yn lle’r cystadleuydd.
  • Mae penderfyniad y Beirniaid yn derfynol ac ni fyddant yn cymryd rhan mewn gohebiaeth na thrafodaethau.