Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Menter enillydd 2018

Sefydlwyd Radnor Hills Mineral Water Company, a leolir yn Nhrefyclo, Canolbarth Cymru, gan William Watkins yn 1990 pan ddechreuodd gasglu dŵr mewn poteli o darddell ar ei fferm deuluol a chyflenwi cwpanau bach ar gyfer y diwydiant hedfan.

Wrth i'r galw am ei ddŵr mwynol wedi’i botelu gynyddu, gosododd William llinell cynhyrchu poteli gyntaf y cwmni yn 1995 ac, o hynny ymlaen, mae'r cwmni wedi datblygu'n gwmni diodydd meddal blaenllaw, gan gynhyrchu tua 250 miliwn o boteli y flwyddyn.

Mae gan y cwmni, sy'n cyflogi llawer o bobl yng nghanolbarth Cymru wledig, oddeutu 180 o aelodau staff, ac yn ogystal â chynnig gwasanaeth datblygu cynnyrch ar gyfer cwsmeriaid label preifat, mae'n cynhyrchu amrywiaeth o gynhyrchion diodydd o'i frand ei hun, o ddŵr mewn poteli i sudd a diodydd meddal.

Mae Radnor Hills hefyd yn awyddus i arloesi, a arweiniodd at gyflwyno ystod newydd o gynhyrchion pecynnau Tetra yn 2017.  Mae'r pecynnau hyn yn well i'r amgylchedd ac yn golygu bod y cynnyrch yn gallu para'n hirach.

Mae 2018 yn ymddangos yn gadarnhaol i'r cwmni hefyd wrth iddo osod ei wythfed linell gynhyrchu, a fydd yn cynyddu ei gapasiti cynhyrchu i oddeutu 400 miliwn o boteli'r flwyddyn.

Mae'r cwmni'n noddi nifer o fentrau cymunedol hefyd, gan gynnwys Sioe Frenhinol Cymru, ac mae wedi ffurfio partneriaeth gydag elusen Tree Aid, lle bydd cyfraniad gan bob potel o sudd Fruella yn mynd tuag at blannu coed yn Affrica.