Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Diwylliant

Mae gan y Cory Band, a sefydlwyd ym 1884, wreiddiau cryf iawn yng nghymuned leol Treorci yn Rhondda Cynon Taf. Mae eu enw am ragoriaeth wedi lledu i bob rhan o’r byd trwy eu llwyddiannau mewn cystadlaethau, recordiadau niferus, cyngherddau a gweithgareddau allgymorth cymunedol, a chânt eu cydnabod fel ensemble cerddoriaeth mwyaf cain ac arloesol Cymru.

Fe greon nhw hanes yn 2016 trwy ennill Camp Lawn; gan fod y band cyntaf mewn hanes i fod yn bencampwyr bedair gwaith drosodd – gan ddal y teitlau Cenedlaethol, Agored, Ewropeaidd a Brass in Concert.

Ers 2012 mae’r band wedi bod yn cael ei arwain gan Philip Harper, gan ennill dau deitl Ewropeaidd arall (2013, 2016), 3 theitl Cenedlaethol (2013, 2015 a 2016), 4 teitl Brass in Concert (2012, 2013, 2015, 2016) a Phencampwriaeth Agored Prydain (2016). Yn 2014 daeth yn enillydd cyntaf y rhaglen Band Cymru ar S4C. Aeth ar daith i Awstralia yn 2013 ac UDA ym mis Chwefror 2016, 40 mlynedd ar ôl ei ymweliad diwethaf.

Yn 2001, ynghyd â Cherddorfa Genedlaethol Cymru’r BBC fe’i penodwyd yn ensemble preswyl yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, ac yn yr un flwyddyn fe benododd Dr John Pickard yn ‘Gyfansoddwr Preswyl’ iddo. Daeth cyfnod John Pickard gyda’r band i ben ym mis Gorffennaf 2005 pan greodd y band hanes gan roi’r perfformiad cyntaf erioed o’i Symffoni Gaia ar lwyfan clodfawr Gŵyl Ryngwladol Cheltenham. Cafodd y symffoni ei darlledu’n fyw ar Radio 3, a chan ei bod yn para am fwy nag awr, y symffoni hon yw’r gwaith gwreiddiol mwyaf yn y repertoire.

Mae’r band yn ymroddedig i gerddoriaeth newydd, codi proffil y genre band pres a chadw cerddoriaeth yn fyw yng Nghymru. Mae ganddo bolisi comisiynu gweithredol ac mae wedi perfformio gweithiau gyda llawer o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw Prydain; John McCabe, Judith Bingham, Elgar Howarth, Edward Gregson, Alun Hoddinott, Karl Jenkins, Gareth Wood, a David Bedford i enwi dim ond rhai. Christopher Bond yw ‘Cyfansoddwr Preswyl’ presennol y band.

Sefydlwyd Academi Cory yn 2013 gyda 15 aelod lleol o’r band yn rhoi gwersi a chyngor i gerddorion ifainc yn wythnosol, yn ogystal â recriwtio mewn ysgolion lleol.