Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Dewrder enillydd 2016

Mae Peter Fuller wedi ei ddewis fel teilyngwr ar gyfer y Wobr Dewi Sant am Ddewrder am ei rôl yn atal ymosodiad ofnadwy â thwca yn yr Wyddgrug ym mis Ionawr 2015.

Ymosododd y troseddwr ar y dioddefwr, Dr Sarandev Bhambra, gyda thwca tra’r oedd Dr Bhambra yn siopa mewn archfarchnad yn yr Wyddgrug. Derbyniodd ddedfryd o garchar am oes am yr ymosodiad.

Fe achubodd yr enwebai yma fywyd person nad oedd yn ei adnabod, mewn man cyhoeddus wrth ymyrryd mewn ymosodiad ofnadwy gydag arf. Bu’n ddigon medrus i atal yr ymosodiad â thwca, gan beryglu ei fywyd drwy sefyll o flaen yr ymosodwr i atal ei ymosodiad.