Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Dewrder

Mae Patrick Dunbar yn Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu sydd wedi'i leoli yn Abertawe.

Ar 1 Medi 2017, tra oedd oddi ar ddyletswydd ac er ei ffordd adref o daith siopa teuluol gyda'i wraig, Joanne (sy’n nyrs â dros 20 mlynedd o brofiad) a'u tair merch, gyrrodd Patrick heibio i dŷ oedd â mwg yn byrlymu o'r ffenestri yn ardal Townhill, Abertawe. Aeth Patrick â'i dair merch adref, cyn cerdded yn ôl at y tŷ â'r tân posibl, gyda Joanne.

Ar ôl cyrraedd yr eiddo, roedd yn amlwg i Patrick fod y tŷ yn wenfflam, ond nid oedd yn hysbys a oedd unrhyw un yn parhau i fod y tu mewn i'r eiddo. Clywodd sgrechiadau yn dod o'r tu mewn, a, heb oedi, aeth Patrick i mewn i'r adeilad, er gwaethaf y mwg trwchus a'r gwres eithafol, gan ganfod dwy fenyw yn y gegin. Roedd un o'r benywod hyn wedi dioddef llosgiadau difrifol i'w choesau, ac ni allai gerdded. Cododd Patrick y fenyw a oedd wedi'i hanafu, a'i chario allan o'r adeilad i ddiogelwch, ac aeth Joanne ati'n syth i roi cymorth cyntaf iddi.

Yna, aeth Patrick yn ôl i mewn i'r eiddo i sicrhau nad oedd neb arall wedi'u gadael y tu mewn; gan ddod allan yn unig pan aeth y gwasanaeth tân eu hunain i mewn i'r eiddo. Yna, bu Patrick yn cynorthwyo Joanne i roi cymorth cyntaf i'r claf tan i'r parafeddygon gyrraedd, a chafodd ei chludo wedyn i'r ysbyty. Oni bai am ymyrraeth, dewrder ac anhunanoldeb Patrick, gallai'r sefyllfa fod wedi bod yn llawer mwy trasig; rhoddodd ei hun mewn perygl uniongyrchol er mwyn achub bywydau pobl eraill, a hynny heb feddwl dwywaith am ei ddiogelwch ei hun, gan achub dau fywyd yn y pen draw.