Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Diwylliant

Mae Owain Arwel Hughes wedi ei ddewis fel teilyngwr ar gyfer y Wobr Dewi Sant am Ddiwylliant am ei wasanaeth eithriadol i fyd cerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt.

Mae’n arweinydd cerddorfa byd enwog sydd wedi gweithio gyda nifer o gerddorfeydd enwog o gwmpas y byd gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cerddorfa Frenhinol y Philharmonic yn Llundain a cherddorfeydd yn Nenmarc a De Affrica. Fe sefydlodd ei gerddorfa ei hun, Camerata Wales, yn 2005 sy’n cynnwys cerddorion o Gymru.

Hefyd, fe sefydlodd y Proms Cymreig ym 1986 ac fe ddathlwyd 30 mlynedd ers ei sefydlu yn 2015. Yn 2014, fe ddaeth yn warantwr y digwyddiad pan leihawyd cefnogaeth ariannol llywodraeth leol ar gyfer y digwyddiad. Addawodd i dalu’r gwahaniaeth am unrhyw ddiffyg mewn gwerthiant tocynnau fel bo’r digwyddiad yn gallu mynd yn ei flaen.

Apwyntwyd Owain hefyd yn Gyfarwyddwr Cerddorol Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn 2003, swydd a ddaliodd am 8 mlynedd.