Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr arbennig y Prif Weinidog enillydd 2015

Fis Medi diwethaf, croesawyd Uwchgynhadledd NATO 2014 i Gasnewydd ar gyfer y cynulliad mwyaf o arweinwyr y byd i ddod i’r Deyrnas Unedig erioed. Daeth pawb oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiad – y gymuned leol, y trefnwyr, yr heddlu a’r gwasanaethau diogelwch – i gyd ynghyd fel un i sicrhau bod y digwyddiad hanesyddol hwn yn llwyddiant ysgubol a bod popeth yn rhedeg yn esmwyth a diogel. Rhoddir Gwobr Arbennig y Prif Weinidog eleni fel cydnabyddiaeth o’u gwaith.

Derbyniwyd Gwobr Dewi Sant ar ran NATO Casnewydd 2014 gan blant Ysgolion Cynradd Pilgwenlli a Mount Pleasant, y Comander Aur yr Is-brif Gwnstabl Chris Armitt, y Comander Arian y Prif Uwcharolygydd Alun Thomas, Ian Edwards, Prif Weithredwr gwesty y Celtic Manor ac Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Bob Bright.

Meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones:

“Nid yn aml y mae Cymru’n cael bod yn destun sylw’r byd ond dyna ddigwyddodd ym mis Medi yn ystod cynhadledd NATO. Fe ddaeth pobl Casnewydd, y trefnwyr a phawb a weithiodd mor galed gydol yr Uwchgynhadledd â bri mawr i ni ac i Gymru. Dyna pam dwi wedi cyflwyno’r Wobr Arbennig i NATO Casnewydd 2014.”