Neidio i'r prif gynnwy

Nathan JonesMae Nathan yn 18 oed ac wedi rhoi cannoedd o oriau dros y tair blynedd ddiwethaf i wirfoddoli gyda Chlwb Athletau Harriers Caerfyrddin a’r Ardal. 

Bron i bob penwythnos dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae wedi rhoi ei amser i fod yn rheolwr cynorthwyol timau athletau, trawsgwlad a rasys cyfnewid gyda Harriers Caerfyrddin. Hefyd mae wedi gwirfoddoli gyda thimau athletau a thrawsgwlad Ysgolion Dyfed a Gorllewin Cymru. 

Yn 2012 cymhwysodd fel swyddog trac ac mae’n gweithredu fel swyddog yng nghystadlaethau athletau Cymru. Yn 2013, ef oedd uwch reolwr tîm bechgyn iau Harriers Caerfyrddin. 

Er bod Nathan yn rhy ifanc i gymhwyso fel hyfforddwr athletau, mae wedi bod yn rhoi dwy noson yr wythnos i helpu i hyfforddi athletwyr ifanc iawn gyda Harriers Cwm Aman yn Rhydaman.  Mae Nathan hefyd yn gwirfoddoli ar gyfer dyletswyddau gweinyddol, ac yn rheolwr gwefan Harriers Caerfyrddin.

Ar 26 Hydref 2013, enillodd wobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn gydag Athletau Cymru.