Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Rhyngwladol enillydd 2015

Mae’r actor Michael Sheen wedi ei ddewis yn deilyngwr am ei lwyddiant yn ei waith yng Nghymru a thu hwnt fel actor a dyngarwr.

Ar ôl hyfforddi yn RADA, gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf proffesiynol yn 1991, yn serennu gyferbyn â Vanessa Redgrave yn When She Danced yn Theatr y Globe. Bu’n gweithio’n bennaf yn y theatr yn y 90au. Ers y 2000au, daeth Michael yn fwy hysbys fel actor sgrin. Serennodd fel cyn Prif Weinidog Prydain, Tony Blair a gafodd ei enwebu ar gyfer BAFTA ac Emmy. Bu hefyd yn chwarae'r actor comig Kenneth Williams mewn drama BBC Four a phortreadu David Frost mewn drama deledu ac addasiad ffilm. Mae hefyd wedi serennu fel y rheolwr pêl-droed cegog Brian Clough yn y Damned United yn 2009. Hefyd yn 2009, ymddangosodd Michael mewn dwy ffilm ffantasi, Underworld: Rise of the Lycans a The Twilight Saga: New Moon, tra yn 2010, gwnaeth ymddangosiad gwadd mewn pedair pennod o gomedi NBC 30 Rock. Adeg y Pasg 2011, cyfarwyddodd Michael a serennodd yn nrama National Theatre Wales The Passion, drama angerdd seciwlar 72-awr fesul cam yn ei dref enedigol Port Talbot, a gafodd ganmoliaeth fawr.

Y tu allan i fyd actio, mae Michael yn noddwr nifer o elusennau Prydeinig megis TREAT Trust Cymru, Gwobr Dylan Thomas a Chadwch Gymru’n Daclus ac mae’n llysgennad y DU ar gyfer UNICEF ac wedi ymweld â Chad a Libanus i weld gwaith UNICEF ar waith. Mae e hefyd wedi bod yn gysylltiedig ag ymgyrch The Wales We Want, sgwrs genedlaethol i ddarganfod beth yw blaenoriaethau’r cyhoedd Cymreig. Bydd e’n ymddangos ar sgriniau teledu ym mis Chwefror yn cymryd rhan yn y Great British Comic Relief Bake-Off. Derbyniodd OBE am ei wasanaethau i ddrama yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 2009.