Neidio i'r prif gynnwy

Yr Athro Meena Upadhyaya OBE

Mae'r Athro Meena Upadhyaya OBE wedi bod yn gweithio ym maes geneteg foleciwlaidd feddygol ers i’r ddisgyblaeth honno ddechrau. Hi oedd y fenyw Brydeinig-Indiaidd gyntaf yn y DU i fod yn athro ym maes geneteg feddygol. Cwblhaodd Meena gymrodoriaeth gyda Choleg Brenhinol y Patholegwyr yn 2000, a hi oedd un o'r bobl gyntaf i wneud hynny ym maes geneteg feddygol. Yn ystod ei gyrfa ymchwil, bu'n canolbwyntio ar nifer o anhwylderau genetig, yn enwedig niwroffibromatosis math 1 (NF1) a nychdod cyhyrol ffasioscapulohumerol. Mae'n awdur ar dros 200 o erthyglau gwyddonol a 3 gwerslyfr ac mae wedi ennill llu o wobrau, gan gynnwys Gwobr Ysbrydoli Cymru (2010) a Gwobr Cymdeithas Niwroffibromatosis Ewrop am y cyfraniadau nodedig a wnaed ganddi ym maes NF1. Mae wedi cynrychioli Caerdydd mewn llawer o gyfarfodydd rhyngwladol. Bu'n athro yn y Sefydliad Geneteg Canser ym Mhrifysgol Caerdydd a hi oedd cyfarwyddwr Labordy Ymchwil a Datblygu Gwasanaeth Geneteg Feddygol Cymru Gyfan tan iddi ymddeol yn 2014. Bu, wedi hynny, yn athro nodedig anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn un o gymrodorion anrhydeddus Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.  

Mae Meena hefyd yn mynd ati'n angerddol i eiriol dros fenywod o blith y lleiafrifoedd ethnig; hi sefydlodd y Gwobrau i Gydnabod Llwyddiant Menywod Asiaidd Cymreig, a adwaenir erbyn hyn yn Gymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnig. Sefydlodd Menywod Lleiafrifoedd Ethnig mewn Gofal Iechyd yng Nghymru ac mae hefyd wedi bod yn un o'r mentoriaid ar gynllun y Fonesig Rosemary Butler, Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus. Mae'n un o ymddiriedolwyr y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod yng Nghymru, Race Equality First, a Race Council Cymru ac yn un o lywodraethwyr Canolfan India. Cafodd gydnabyddiaeth yn ddiweddar ar ôl cael ei henwi'n un o'r 12 o fenywod mwyaf eu bri ym Mhrifysgol Caerdydd dros yr hanner can mlynedd diwethaf.

Yn 2017, enillodd Meena Wobr Dewi Sant am Arloesi, Gwyddoniaeth a Thechnoleg.