Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Dewrder

Mae Mathew James o Bontypridd wedi ei enwebu am iddo ddangos anhunanoldeb mewn cyfnod o wir ofn ac anrhefn. Defnyddiodd ei gorff i amddiffyn ei bartner, Saera Wilson, rhag bwledi yn ystod yr ymosodiadau terfysgol yn Nhiwnisia.

Ar 24 Mehefin 2015, saethodd dyn arfog tuag at twristiaid wrth gerdded ar hyd traeth prysur yn Nhiwnisia gan ladd twristiaid wrth iddynt dorheulo.
 
Roedd Mathew James a Saera Wilson ar y traeth wrth i’r ymosodiad fynd rhagddo. Heb ystyriaeth am ei fywyd ei hun, taflodd Mathew ei gorff dros Saera i’w hamddiffyn rhag y bwledi. Cafodd Mathew ei daro yn ei frest, ei glun a’i belfis ond goroesodd. Heb ddewrder Mathew gallai Saera fod wedi cael ei lladd.

Dychwelodd Mathew a Saera i Bontypridd, lle y bu eu 2 blentyn yn aros amdanynt.