Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Menter

Busnes teuluol yw Llaeth y Llan, a ddatblygwyd trwy arallgyfeirio fferm sy’n nythu y tu allan i bentref bach Llannefydd, Conwy. Mae iogyrtiau Llaeth y Llan yn cael eu cynnig ar silffoedd archfarchnadoedd ledled Cymru a rhannau eraill o’r DU.

Fel gŵr ifanc, roedd Gareth byth a beunydd yn meddwl am ffyrdd o arbrofi â’i fferm 50 erw. Aeth ef a’i wraig, Falmai, ill dau ar gyrsiau i ymestyn eu gwybodaeth am gynhyrchu bwyd a busnesau bwyd, a hwythau â’u bryd ar arallgyfeirio mewn cyfnod anodd. Ar ôl arbrofi â gwahanol gynhyrchion fe lansiodd y ddau Iogwrt Llaeth y Llan ym 1985.

Cafodd iogwrt Llaeth y Llan ei lansio a’i werthu’n gyntaf trwy rowndiau llaeth a siopau annibynnol yn bennaf. Erbyn 2014 roeddent yn cyflogi 25 o bobl ac erbyn 2016 fe ddyblodd y ffigwr hwnnw i 43 ac mae ar fin dyblu unwaith eto. Mae’r cwmni a’r brand o Sir Ddinbych yn adnabyddus ledled Cymru a’r Gororau, ac mae’r iogwrt yn cael ei stocio ym mhob un o’r prif archfarchnadoedd.

Mae’r teulu’n llysgenhadon ar gyfer Prosiect Sgiliau Bwyd a Diod Cymru. Maent bellach yn un o’r 25 o lysgenhadon bwyd a diod ar gyfer yr ymgyrch ‘Sgiliau’r Dyfodol ... Cnoi Cil’ i helpu busnesau i dyfu.

Maent yn credu’n gryf nad yw eu busnes ond mor dda â’u staff ac yn rhoi pwyslais ar hyfforddiant a buddsoddi yn y gymuned, y mae’r rhan fwyaf ohono’n digwydd yn fewnol i helpu i ddatblygu sgiliau pobl.

Mae llwyddiant y cwmni wedi’u galluogi i ddyblu niferoedd y staff mewn proses ehangu fawr ac mae ar y trywydd cywir i hybu cynhyrchiant a chreu swyddi newydd ar ei fferm Tal y Bryn ar ôl ennill contract gyda phrif Archfarchnadoedd. O ganlyniad i’w twf diweddar, mae Llaeth Y Llan/Village Dairy yn rhagweld y bydd yr iogyrtiau a werthir yn cynyddu chwe gwaith drosodd wrth iddynt fod ar gael mewn mwy a mwy o siopau bwyd ledled Cymru.