Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Dinasyddiaeth

Linda yw sylfaenydd a Chyfarwyddwr Cwmni Seren, cwmni elusennol sy’n darparu llety, gofal a chyfleoedd gwaith i bobl ifanc ac oedolion ag anawsterau dysgu.

Diolch i weledigaeth a phenderfyniad Linda, mae llawer o bobl sydd ag anawsterau dysgu wedi cael y cyfle i ennill arian, datblygu sgiliau, hunan hyder a hunan barch. Drwy sefydlu’r cwmni, mae gan lawer o bobl (y rhai sydd ag anableddau a’r rheiny heb) swydd llawn amser er bod Blaenau Ffestiniog mewn ardal Categori 1 ac mae cyfleoedd swyddi yn gallu bod yn brin. Mae Cwmni Seren bellach yn un o brif gyflogwyr yr ardal. Mae Linda yn sicrhau fod y gwasanaethau a ddarperir gan Gwmni Seren yn gwbl ddwyieithog, o safon uchel ac mae ei hymroddiad a gofal yn glir i’w gweld. Mae cyfleuster ailgylchu’r cwmni, a lansiwyd yn 2011 fel rhan o Rwydwaith Ailgylchu Cymunedol Cylch Cymru, wedi cael ei gydnabod fel esiampl arbennig o gyfleoedd cynaliadwy, economaidd a chymdeithasol, ac yn fuddiol iawn i ardal Blaenau Ffestiniog.

Ar hyn o bryd, mae hi’n sefydlu gwesty 3 seren ym Meirionydd, Gwesty Seren, a fydd wedi ei deilwra ar gyfer anghenion y rhai sydd ag anawsterau dysgu a’u teuluoedd a’r cyntaf o’i math ym Mhrydain. Gall deuluoedd ymlacio mewn amgylchedd diogel, gan wybod fod gofal priodol ar gael.