Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Diwylliant

Magwyd Karl ym  Mhenclawdd a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Tre-gŵyr a’r Academi Gerdd Frenhinol. Dangosodd  arolwg byd-eang yn 2011 taw Karl Jenkins yw’r cyfansoddwr byw sydd a’i waith yn cael ei berfformio fwyaf yn y byd. Perfformiwyd  ei Offeren Heddwch yr Armed Man dros 1700 o weithiau ers ei berfformiad cyntaf adeg y Mileniwm, gan gynnwys un yn Efrog Newydd ar 10fed pen-blwydd 9/11. Mae ei gerddoriaeth sydd wedi ei recordio wedi arwain at ddwy ar bymtheg o wobrau aur a disg blatinwm.

Mae ei arddull wedi goresgyn ffiniau cerddorol, yn cwmpasu jazz-roc gyda Soft Machine,  y ffenomen fyd-eang ‘crossover’ Adiemus, a thraciau sain ar gyfer Levis a British Airways , yn ogystal â chyfansoddi wrth fynd heibio sgôr ffilm Kiefer Sutherland, bod yn Castaway ar BBC ' Desert Island Discs ', bod yn destun sylw Melvyn Bragg ar y Sioe ITV arloesol South Bank a derbyn Rhyddid Dinas Llundain. Mae ei recordiadau yn cynnwys: Requiem, Stabat Mater, Quirk, Gloria, Te Deum, The Peacemakers, ac mae hefyd wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, Bryn Terfel, y Fonesig Kiri Te Kanawa, y Fonesig Evelyn Glennie a Cherddorfa Symffoni Llundain.

Mae ganddo Gymrodoriaethau, Doethuriaethau a chadair athro mewn pum prifysgol neu conservatoires, gan gynnwys y RAM, lle mae ystafell wedi cael ei enwi er anrhydedd iddo. Ers 2004, efe yw’r cyfansoddwr byw sydd ar frig  'Hall of Fame' Classic FM y mwyaf aml. Dilynwyd hyn gan sawl anrhydedd: Cymru For The World Award, y Fedal Hopkins a roddwyd gan Gymdeithas Dewi Sant ar ran Talaith Efrog Newydd; yr ‘Order of Merit - Knight’s Cross’  gan Lywydd Hwngari; Llywydd cyfeillion y NYOW; Gwobr 'Red f' Classic FM ar gyfer 'gwasanaeth rhagorol i gerddoriaeth glasurol' a gwnaed yn CBE yn y Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd 2010.

Yn 2014 sefydlodd “The Arts Club Karl Jenkins Award“, i helpu cerddorion ifanc sy'n ymuno â'r proffesiwn.