Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Dewrder enillydd 2014

Karin WIlliamsAr 20 Mehefin 2013 roedd Karin, swyddog croesfan ysgol ers dros ddeng mlynedd gydag Ysgol Gynradd y Rhws, yn un o’r rhai a anafwyd mewn damwain pan gollodd gyrrwr reolaeth ar ei gar. 

Ychydig cyn 9am, ar yr adeg brysuraf i’r groesfan y tu allan i’r ysgol, daeth y car tuag at Karin a grŵp o blant a rhieni. Dywedodd y tystion i Karin ymateb yn reddfol i amddiffyn y plant, gan daflu ei hun rhyngddynt a’r car a chymryd yr ergyd ei hun. 

Daliwyd Karin dan y car, a oedd wedi glanio ar ei do. Dioddefodd anafiadau difrifol, gan dorri ei phengliniau a’i breichiau. Hefyd torrodd ei hysgwydd a’i dwy goes, ac o ganlyniad bu’n rhaid iddi dreulio’r naw wythnos nesaf yn yr ysbyty.