Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Menter

John Davies yw Rheolwr Gyfarwyddwr Recliners – cwmni wedi'i leoli yng Nghwm Rhondda sy'n cyflenwi ac yn gweithgynhyrchu dodrefn symudedd codi a gostwng pwrpasol, yn ogystal â seddi arbenigol.

Mae ganddo fwy na 30 mlynedd o brofiad ym myd busnes dodrefn a gweithgynhyrchu, ac mae'n ddodrefnwr cymwysedig gyda City and Guilds. Sefydlwyd Recliners yn niwedd yr 1990au, ac mae'r cwmni'n mynnu bod ansawdd yn perthyn i bopeth a wneir yno. Mae'n sicrhau ei gwsmeriaid y byddant yn cael blynyddoedd o foddhad ac esmwythdra os byddant yn buddsoddi mewn cynnyrch gan Recliners. Mae John wedi llwyddo i rannu ei wybodaeth arbenigol am ddodrefn symudedd â'r sector gofal iechyd, yn ogystal â chwmnïau ledled y DU. Mae wedi datblygu'r busnes yn sylweddol dros y pum mlynedd diwethaf trwy fuddsoddi mewn ardal dylunio creadigol, a, thrwy hynny, sicrhau bod cynnyrch Recliners yn ganlyniad i broses ddylunio drylwyr mewn cydweithrediad â'r rheiny sy'n defnyddio cynnyrch y cwmni, deunyddiau a ddewiswyd yn ofalus, a phwyslais arbennig ar steil y dyluniad. 

Gyda gweithlu sefydledig sy'n cynnwys tîm o 37 o weithwyr ymroddedig, bydd Recliners yn parhau i ddatblygu ym mhob maes trwy gynnig hyfforddiant ffurfiol a chyrsiau datblygu i'r staff, lle bydd John ei hun yn mentora dau unigolyn. Mae'n awyddus hefyd i gefnogi'r economi Gymreig ehangach, gan sicrhau bod cyflenwadau lleol yn cael eu defnyddio lle bynnag y bo modd.