Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mae Jessica yn Beiriannydd yng Nghanolfan Dechnoleg Sony UK, lle mae’n datblygu’r genhedlaeth nesaf o dechnolegau gweithgynhyrchu ar y cyd â Sony Japan.

A hithau wedi graddio mewn astroffiseg ac wedi bod yn Beiriannydd Ifanc y Flwyddyn yn y DU, enillodd Wobr Ysbrydoliaeth Intel ar gyfer Entrepreneuriaeth yn dilyn datblygu cyfres o droswyr ffeibr optig newydd.

Mae’n un o Wŷr Rhydd Cwmni Anrhydeddus y Gwneuthurwyr Offerynnau Gwyddonol ac yn aelod o Gyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi. Mae’r eiriolwr brwd dros wyddorau technegol hefyd wedi dod yn gyfarwyddwr Cynllun Addysg Beirianneg Cymru ac yn noddwr Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn Ysgol Gwfaint Alton.

A hithau’n 22 oed, mae cyflawniadau technegol Jessica yn cynnwys dyfeisio monitor ffeibr optig cost-isel i fesur cyfangiadau ffetws sydd yn y broses o gael patent. Cafodd y dechnoleg ei dylunio’n wreiddiol ar ran gweithgynhyrchwr meddygol lleol ac fe arweiniodd at ostyngiad o 99% mewn costau cynhyrchu. Cafodd fersiynau dilynol o dechnoleg Jessica eu dylunio i fesur gweithgarwch ysigo mewn strwythurau mawr gan gynnwys pontydd ac awyrennau, yn ogystal ag atmosfferau a allai fod yn ffrwydrol, megis ar lwyfan olew.

Yn 2015, er gwaethaf amheuon academaidd, llwyddodd i ddatblygu model wrth raddfa o synhwyrydd tonnau disgyrchol rhyngweithiol gyda’r nod o wneud gwyddoniaeth gymhleth yn fwy hygyrch i’r cyhoedd. Cafodd ei phrosiect £5,000 mewn arian grant i ymestyn ei raglen allgymorth i weddill Cymru. Mae hi hefyd yn cyd-arwain mudiad gyda’r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg i safoni technolegau seiber newydd, er mwyn sicrhau bod Cymru a’r DU yn parhau i fod ar flaen y gad yn y 4ydd Chwyldro Diwydiannol sydd ar ddod.