Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Dewrder

Mae’r Cwnstabliaid Heddlu Thomas a Salmon a Ditectif Gwnstabl Jones o Heddlu Dyfed Powys wedi eu henwebu am Wobr Dewi Sant am Ddewrder am eu rôl wrth achub dau berson o dŷ ar dân yn Hwlffordd ym mis Tachwedd 2013.

Yn gynnar ar fore 8 Tachwedd, cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu hysbysu am dân mewn tŷ yn Hwlffordd. DC Jones a PC Salmon oedd y swyddogion cyntaf yno, wedi eu dilyn yn gyflym gan PC Thomas. Hysbyswyd y swyddogion fod yna rywun tu mewn y tŷ, roedd blaen y tŷ ar dân a gallai swyddogion weld fod tu fewn i’r adeilad yn llawn mwg du trwchus. Penderfynodd y swyddogion na allent aros tan i’r Gwasanaeth Dân gyrraedd felly gwnaethant eu ffordd i mewn drwy’r drws ffrynt oedd yn llosgi. Roeddent mewn tywyllwch llwyr wrth iddynt gwneud eu ffordd drwy’r fflat, oedd yn anghyfarwydd, tra’n frwydro i anadlu. Daethant o hyd i breswylydd y fflat a oedd dal i gysgu yn y gwely ond hefyd yn dioddef effeithiau anadlu mwg. Daeth y plismyn o hyd i berson arall oedd hefyd yn cysgu yno, wedi aros dros nos yn annisgwyl.

Wrth i’r tri swyddog a’r ddau breswyliwr geisio gadael y fflat, darganfyddon nhw fod y drws ffrynt wedi cau ac wedi eu cloi o du fewn y fflat. Gan fethu agor y drws, defnyddiodd PC Salmon ei set radio i agor y drws gan alluogi pawb i ddianc.