Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Person Ifanc enillydd 2014

Jade Jones MBE

Jade Jones yw'r bencampwraig Olympaidd menywod taekwondo yn y dosbarth 57kg; enillodd y Fedal Aur gyntaf erioed i’r DU yn y gamp yn Llundain 2012. 

Wedi ei geni a'i magu ym Modelwyddan, dechreuodd Jade ymarfer taekwondo yn 8 oed a throdd yn broffesiynol yn 2010. Yn yr un flwyddyn enillodd y Fedal Aur yn y Gemau Olympaidd Ieuenctid cyntaf erioed yn Singapore.

Dilynwyd hyn gan Fedal Arian ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Ne Korea, a'r fuddugoliaeth fwyaf o'r cyfan yn 2012 yn y flwyddyn yn y Gemau Olympaidd. Jade oedd yr enillydd medal aur unigol ieuengaf yn y Gemau Olympaidd yn Llundain. 

Enillodd Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru yn 2012 a derbyniodd MBE yn 2013. Mae Jade eisoes wedi dechrau hyfforddi'r genhedlaeth nesaf taekwondo a’i tharged nesaf yw’r Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro yn 2016.