Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Diwylliant

{"preview_thumbnail":"/sites/default/files/styles/video_embed_wysiwyg_preview/public/video_thumbnails/lFnjDVW6sdI.jpg?itok=16aAmjSF","video_url":"https://youtu.be/lFnjDVW6sdI?","settings":{"responsive":1,"width":"854","height":"480","autoplay":0},"settings_summary":["Embedded Video (Responsive)."]}

Mae'r darlledwr Huw Edwards, a enillodd radd ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi bod yn newyddiadurwr ar y teledu ers 30 o flynyddoedd. Mae'n cyflwyno Newyddion Deg y BBC, sef y rhaglen newyddion sydd â'r nifer uchaf o wylwyr ym Mhrydain, ac mae'n cyfuno ei ddyletswyddau yn y stiwdio gydag aseiniadau gohebu ar draws y byd.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae Huw wedi cyflwyno prif seremonïau Gemau Olympaidd Llundain 2012; ef a arweiniodd sylwebaeth y BBC o'r Briodas Frenhinol (a enillodd wobr BAFTA am y Sylwebaeth Orau o Ddigwyddiad Byw); arweiniodd y sylwebaeth o sefydlu'r Arlywydd Obama; ei gyfres ddiweddar 'The Story of Wales' oedd y rhaglen deledu gyntaf ar hanes Cymru ers 25 o flynyddoedd ac enillodd sawl wobr. Treuliodd Huw 12 mlynedd yn gohebu ym maes gwleidyddiaeth ar gyfer BBC News yn ystod cyfnod lle y daeth cyfnod Margaret Thatcher i ben a phryd y daeth Tony Blair yn Brif Weinidog.

Huw yw llais y BBC ar gyfer seremoni Cyflwyno'r Faner, Sul y Cofio ac Agoriad Swyddogol y Senedd. Mae hefyd wedi cyflwyno nifer o raglenni ar hanes a cherddoriaeth glasurol ar BBC Four, BBC Two, Radio 3, Radio 4 ac S4C. Mae ei brosiectau wedi cynnwys rhaglenni dogfen ar David Lloyd George, Gladstone a Disraeli ac Owain Glyndwr.

Cafodd ei fagu yn Llangennech, Sir Gaerfyrddin a mynychodd Ysgol Ramadeg Llanelli. Enillodd radd mewn Ffrangeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'n Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgolion Caerdydd, Abertawe, Bangor, y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol De Cymru, ac mae ganddo ddoethuriaeth er anrhydedd o Brifysgol Morgannwg. Mae hefyd yn Athro er Anrhydedd Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd.