Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Menter enillydd 2019

Sefydlwyd Hilltop Honey gan Scott Davies yn 2011, ac ers hynny, mae'r busnes wedi mynd o nerth i nerth.

Gwelodd y cwmni dwf anhygoel yn y pum mlynedd diwethaf, gyda trosiant yn cynyddu o £234,000 i dros £4 miliwn. Mae gan Hilltop Honey y gallu i gynhyrchu 850,000 o botiau y mis.

Mae Hilltop Honey bellach yn cael ei werthu gan nifer o archfarchnadoedd mawr a nifer o siopau fferm annibynnol. Mae'r busnes wedi symud i bencadlys 14,000 tr sg yn Y Drenewydd, Powys ac mae sawl cynnyrch mêl newydd wedi'i ddatblygu, gan gynnwys mêl o Brydain, mêl arbennig, organig, mānuka ac organig masnach deg, a phob un ohonynt ar gael mewn potiau gwydr y mae modd eu hail-ddefnyddio a photeli y gellir eu hailgylchu 100%.

Hilltop Honey oedd y cwmni cyntaf i werthu mêl organig masnach deg. Daw yr holl fêl ar gyfer y cynnyrch masnach deg drwy gwmnïau cadw gwenyn cydweithredol ardystiedig mewn gwledydd sy'n datblygu, gan drawsnewid bywydau ffermwyr a chymunedau lleol drwy gyfrannu at eu dyfodol cynaliadwy.

Mae'r busnes yn ymrwymo i recriwtio doniau lleol a'u datblygu drwy eu rhaglen hyfforddi fewnol.

Mae Hilltop Honey yn rhedeg eu hymgyrch 'Mabwysiadu Gwenyn' eu hunain ble y gall ddefnyddwyr ddysgu mwy am bwysigrwydd gwenyn i'r amgylchedd. Mae'r busnes yn cyfrannu 25% o'r elw o hyn i'r elusen haeddiannol Honeypot Children's Charity.

Bu i'r cwmni hefyd greu yr ymgyrch 'Achub Gwenyn Prydain drwy Blannu Hadau', gan ymuno â Tesco ac Ocado i annog defnyddwyr i greu gerddi i ddenu gwenyn trwy ddefnyddio pecyn o hadau am ddim ddaeth gyda pob pot o fêl a werthwyd.