Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Menter

Cwmni bach yw Halen Môn, a ddechreuwyd ar lannau’r Fenai ar Ynys Môn gan Alison a David Lea-Wilson. Mae’r cwmni, sy’n cyflogi dros 20 aelod o staff, yn allforio’u cynnyrch i 16 o wledydd ledled y byd.

Ym 1997, fe adawodd y perchnogion Alison a David Lea-Wilson sosban o ddŵr heli o’r Fenai’n berwi ar yr Aga yn eu cegin deuluol, ac roeddent yn gwybod eu bod wedi dod o hyd i aur lle’r oedd coginio yn y cwestiwn. Ar ôl ymchwil o amgylch y byd ac ym Mhrifysgol Bangor ym 1998, fe ddechreuon nhw gyflenwi eu cigydd lleol ar Ynys Môn â Halen Môn Sea Salt.

Heddiw mae eu halen môr yn cael ei fwynhau ledled y byd gan gogyddion, bwydgarwyr a hyd yn oed Cyn-arlywydd UDA! Mae wedi cael ei weini yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012, mewn uwchgynadleddau gwleidyddol a phriodas frenhinol ac mae’n gynhwysyn penodol hanfodol mewn llond llaw o gynhyrchion eraill cyfarwydd ar silffoedd archfarchnadoedd.

Fe atgyfododd Alison a David yr arfer traddodiadol o fedi heli môr trwy gyfuno technegau traddodiadol â thechnoleg newydd sbon i gynhyrchu halen môr fflawiog. Halen Môn yw’r cynnyrch cyntaf yng Nghymru ag Enw Tarddiad Gwarchodedig gan ei fod wedi ennill statws Enw Bwyd Gwarchodedig ochr yn ochr â Chig Oen a Chig Eidion Cymru a chynhyrchion eraill o Gymru.

Maent wedi llwyddo i ddechrau busnes cynaliadwy, llwyddiannus sy’n cyflogi pobl leol ag egwyddorion amgylcheddol ac addysgol gan hefyd ddenu twristiaid i ardal wledig, arfordirol yng Nghymru. Mae proffil yr ardal a phroffil yr ynys ei hun wedi cael eu codi’n sylweddol o amgylch y byd o ganlyniad.