Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Dinasyddiaeth

Glenys Evans o'r Barri yw un o'r rhieni sefydlodd Ganolfan Therapi Plant Bobath Cymru, elusen sy'n rhoi therapi arbenigol i blant sy'n cael diagnosis o cerebal palsy a chefnogaeth i'w teuluoedd.

Mae gan un o'i tri o blant, Thomas, cerebal palsy ac mae'n ei weld yn anodd gorfod teithio i Lundain i gael therapi arbenigol. Gydag ychydig o rieni eraill, helpodd sefydlu Canolfan Therapi Plant Bobath Cymru yn 1992, ac mae Glenys wedi bod yn helpu i redeg y ganolfan ers hynny.

Yn y flwyddyn gyntaf, bu'r ganolfan yn trin 45 o blant, ac ers hynny mae'r nifer gafodd eu trin wedi tyfu i 489 yn 2017/18.

Mae Glenys wedi bod yn rhan o Bobath Cymru am 28 mlynedd fel ymddiriedolwr, gwirfoddolwr ac am yr ugain mlynedd diwethaf fel Cydgysylltydd Cymorth i Deuluoedd, gan roi cymorth ymarferol ac emosiynol i rieni sy'n ceisio dod i delerau ag anabledd eu plant.

I nodi 20fed pen-blwydd Bobath Cymru, aeth Glenys ar daith 100km yn y Sahara a chodi £20,000 i'r elusen, yn 2017 roedd Bobath Cymr yn dathlu eu 25ain pen-blwydd.

Mae Glenys hefyd wedi cyfrannu oriau o'i hamser ar ymgynghoriadau a gweithgorau ac wedi rhoi tystiolaeth ysgrifenedig ar gyfer adroddiadau o bwys i geisio gwella y ddarpariaeth a'r gwasanaethau ar gyfer plant a theuluoedd yn y dyfodol.

Mae Glenys yn rhan o weithgor ar hyn o bryd, sy'n anelu at greu y cofrestr cyntaf ar gyfer Cerebal Palsy yng Nghymru, i roi darlun cywir o'r achosion o cerebal palsy yng Nghymru a bydd yn helpu gyda'r gwasanaeth cynllunio yn y dyfodol.