Neidio i'r prif gynnwy

Geraint Thomas MBEMae Geraint Thomas o Gaerdydd wedi ennill dwy Fedal Aur Olympaidd fel rhan o dîm Beicio Prydain yng ngemau Beijing yn 2008 a Llundain yn 2012, gyda’r tîm yn gosod record byd newydd wrth ennill y Fedal Aur yn Llundain. 

Yn ffigwr pwysig yn llwyddiant beicio Prydain dros y blynyddoedd diwethaf, llwyddodd i oresgyn damwain ddifrifol yn gynnar yn ei yrfa a arweiniodd at golli’i ddueg (spleen). Cafodd lwyddiant ym maes beicio ar y trac ac ar yr heol, gan gwblhau’r Tour de France 4 gwaith a’r Giro d’Italia ddwywaith, yn ogystal ag ennill Pencampwriaeth y Byd fel rhan o dîm ar y trac 3 gwaith. 

Enillodd Fedal Efydd dros Gymru yn y ras ar yr heol yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2006 ym Melbourne, cyn cymryd rhan yn y Tour de France am y tro cyntaf yn 2007 fel y cystadleuydd ieuengaf, a’r Cymro cyntaf i gystadlu yn nigwyddiad rhuban glas y byd beicio ers bron i 40 mlynedd. Torrodd Geraint ei belfis mewn damwain yn ystod camau cyntaf y Tour de France yn 2013, ond er hynny llwyddodd i gwblhau’r daith. Cafodd MBE yn 2009.