Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Dewrder enillydd 2017

Ymladdwyr tân ar alwad yng Ngorsaf Dinbych-y-pysgod a chanddynt 3 blynedd o wasanaeth yw Gary Slack a Billy Connor.

Ar 7 Awst 2016, tra’r oeddent yn cyflawni gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus cymunedol yn Harbwr Dinbych-y-pysgod, roeddent yn rhan o griw a rybuddiwyd gan aelod o’r cyhoedd fod nofwyr mewn perygl yn y dŵr ger Traeth y Castell, Dinbych-y-pysgod.

Pan aethant ar y traeth gyda’u Rheolwr Gwylfa, roeddent yn gallu gweld dau o blant, brawd a chwaer 13 a 14 mlwydd oed, a oedd yn amlwg mewn trybini tua 100m o’r traeth, mewn ardal lle mae llanw terfol yn gyffredin.

Gyda’r injan dân oddeutu ¼ milltir i ffwrdd, aeth gweddill y criw ar ras i ymofyn yr offer angenrheidiol. Roedd y plant yn mynd yn fwyfwy blinedig, yn nofio yn erbyn cerrynt cryf ac ymchwydd, ac roeddent yn dechrau diflannu o dan y dŵr, gan wynebu risg cynyddol o foddi.

O ystyried yr amser y byddai’n ei gymryd i’r criw ddychwelyd gyda’r offer, a’r ffaith bod y fam a’r tad ill dau ar fin mynd i mewn i’r dŵr mewn ymgais i achub eu plant, fe benderfynodd eu Rheolwr Gwylfa (yn seiliedig ar eu profiad o nofio mewn dŵr agored) y dylent fynd i mewn i’r dŵr a nofio at y plant i’w hachub.

Nofiodd Billy at y bachgen a’i hebrwng i fan diogel tra nofiodd Gary at y ferch a’i chadw uwchlaw’r dŵr wrth iddo geisio’i hebrwng yn ôl i’r lan; fodd bynnag roedd amodau’r môr yn anodd a dychwelodd Billy i’w gynorthwyo i hebrwng y ferch yn ôl i’r traeth.

Yno cafodd y ddau blentyn driniaeth gan Bersonél y Gwasanaeth Tân a roddodd Gymorth Cyntaf nes i’r Ambiwlans gyrraedd. Llwyddwyd i achub y ddau a chawsant eu cludo i’r Ysbyty mewn ambiwlans oherwydd pryderon ynghylch boddi eilaidd.

Cafodd Gary a Billy eu canmol gan yr RNLI, yr oedd eu Bad Achub eu hunain sydd wedi’i leoli yn Ninbych-y-pysgod wrthi’n ymateb i alwad arall 12 milltir o Ddinbych-y-pysgod ar y dydd, ac a ddywedodd ei bod yn debygol y byddai’r canlyniad wedi bod yn angheuol pe na bai’r ddau ymladdwr tân wedi ymyrryd.