Neidio i'r prif gynnwy

Sgt Gareth Davies and PC John HarrisonAr 29 Mai 2012, daeth galwad i ystafell reoli Heddlu Gogledd Cymru gan staff Cyngor Wrecsam yn dweud bod dyn wedi dod i mewn i Neuadd y Dref â bom mewn bag.

Roedd Sarsiant Gareth Davies yn yr ardal, ac fe aeth yno ar unwaith er mwyn helpu i wagio’r adeilad a chwlio am y dyn oedd dan amheuaeth. Daeth y Sarsiant Dros Dro John Harrison i’w helpu. Dywedwyd wrthynt fod y dyn wedi gadael. Gyda’r bwriad o helpu i wagio’r adeilad, agorodd yr heddweision ddrws siambr y cyngor. Yno yn eu hwynebu roedd y dyn oedd dan amheuaeth, yn dal gwn yn syth tuag at wyneb Sarsiant Davies.

Ymatebodd y ddau yn gyflym, gan weiddi gorchmynion clir at y dyn â’r gwn. Llwyddwyd i oresgyn y dyn a’i arestio. Yna, gyda chymorth dau heddwas arall, llwyddwyd i sicrhau bod y dyn dan reolaeth. Yn ddiweddarach gwelwyd mai bom ffug oedd yn y pecyn.