Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Person Ifanc

Mae Eifion Jones o Langadfan ym Mhowys wedi ei ddewis fel Teilyngwr yng Nghategori Person Ifanc Gwobrau Dewi Sant am ddatblygu ei sgiliau peirianyddol mewn i fusnes.

Mae wedi bod yn gweithio gyda metal ers derbyn arc-weldiwr fel anrheg Nadolig pan oedd yn 12 mlwydd oed. Mae wedi cynllunio a gwneud sawl eitem megis gatiau, teclynnau bwydo gwartheg a bocsys ffensio. Ar gyfer ei gymhwyster Safon Uwch Gyfannol mewn Dylunio a Thechnoleg, fe gynlluniodd  ‘Ffensiwr Clyfar’ sydd wedi ei enwebu ar gyfer Gwobr Arloesedd Myfyrwyr CBAC.

Mae’r peiriant Ffensiwr Clyfar yn galluogi ffermwyr i hel hen ffensys lawer yn haws, yn gynt ac yn daclusach nag y byddai’n bosibl â llaw. Mae hefyd yn beiriant sy’n helpu i osod ffens newydd sbon a’i thynhau yn gyflym a ddiffwdan gyda ffordd o addasu pellter y ffens o’r pyst ac ongl y ffens.

Mae hefyd wedi sefydlu cwmni peirianneg amaethyddol y mae’n ei redeg o sied yn ei gartref.

Mae’n aelod brwdfrydig o’r clwb Ffermwyr Ifanc lleol ac yn helpu’r gymuned leol drwy dorri’r glaswellt a’r coed yn yr eglwys leol.