Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Rhyngwladol

Gastroenterolegydd o Gaerdydd yw Dr Laith Al-Rubaiy. Wedi graddio o Goleg Meddyginiaeth Basra yn Iraq, daeth i'r DU yn 2005.

Er mai ychydig o weithiau y budd iddo ymweld â'i wlad enedigol yn ystod ei gyfnod yng Nghymru, penderfynodd wirfoddoli i'r AMAR Foundation i ddarparu triniaethau meddygol i rai o ddinasyddion tlotaf Iraq. Aeth Laith, sy'n dad i ddau o blant, i Iraq i sefydlu clinig symudol ym maestref Al Rumaila yn Basra, y ddinas ble y bu iddo hyfforddi i fod yn feddyg.

Yn ystod ei gyfnod yn Iraq, gwelodd amodau byw a meddygol teuluoedd oedd wedi'u hadleoli yn ystod y cyfnod cythryblus wedi'r rhyfel.

Yn ogystal â helpu pobl i sefydlu'r clinig symudol, rhoddodd Dr Al-Rubaiy, sydd hefyd yn ddarlithydd clinigol yn Ysgol Feddyginiaeth Prifysgol Abertawe, ddarlithoedd i gymdeithas feddygol yn Iraq ar sut i ddiweddaru cwricwlwm meddygol Iraq. Bu o gymorth hefyd wrth ychwanegu at brosiectau cenedlaethol yn Iraq, gan gynnwys sgrinio ar gyfer canser y coluddyn, sgrinio hepatitis feirysol y gwaed a sefydlu ymgynghoriadau Skype gyda meddygon o Ysbyty Prifysgol Caerdydd.