Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Menter enillydd 2016

Sefydlodd Dr Dominic Griffiths Alesi-Surgical (ynghynt Asalus) yn 2009 i fasnacheiddio dyfeisiau sy'n deillio o Sefydliad Cymru ar gyfer Therapi Mynediad Lleiaf yng Nghaerdydd. Nawr, mae Asalus yn wneuthurwr dyfeisiau meddygol blaenllaw.

Mae’r ddyfais sydd wedi ennill gwobr, Ultravision, yn system newydd sy’n clirio mwg llawfeddygol o’r ardal weledol ac yn ei atal rhag rhyddhau i’r theatrau yn ystod llawdriniaethau laparoscopig. Mae mwg llawfeddygol yn fater arwyddocaol yn ystod llawdriniaeth laparoscopig gan ei fod yn amharu ar y maes gweledol ac yn gallu effeithio ar gweithredau llawfeddygol.

Mae Ultravision yn chwyldroi y modd y caiff mwg llawfeddygol ei ymdrin â ac yn gweddnewid amgylchedd theatrau yn ystod llawdriniaeth laparoscopig. Mae'r manteision yn cynnwys; lleihau'r risg o sychu meinwe achosir gan gyfnewid o garbon deuocsid yn ystod y weithdrefn, mae'n gost-effeithiol ac mae'n clirio'r mwg o olwg llawfeddygon trwy’r amser.

Mae disgwyl i’r ddyfais bellach gael ei hallforio i ysbytai ledled yr UE. Mae eisoes wedi ennill gwobr ledled y wlad yn y Gwobrau Effaith Unico Praxis, yn ogystal â ‘Menter Newydd’ a gwobr 'Dewis y bobl' am y tro cyntaf yng ngwobrau Effaith ac Arloesi Prifysgol Caerdydd eleni.