Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Diwylliant enillydd 2018

Cyfarwyddwr Celfyddydol Opera Cenedlaethol Cymru yw David Pountney, ac mae'n gyfarwyddwr a libretydd a gydnabyddir yn rhyngwladol. Fel artist ac arweinydd diwylliannol, mae David Poutney wedi gwneud cyfraniad unigryw i fywyd celfyddydol Cymru. Ymunodd David ag Opera Cenedlaethol Cymru fel Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Celfyddydol yn 2011, ond mae wedi bod yn cydweithio â'r cwmni ers 1975 pan oedd yn cyfarwyddo cylch o operâu arloesol gan Janáček. Yn 1996, comisiynwyd opera newydd i ddathlu hanner canmlwyddiant sefydlu Opera Cenedlaethol Cymru, The Doctor of Myddfai. Cyfansoddwyd y darn gan Syr Peter Maxwell Davies, a David oedd yn gyfrifol am ysgrifennu'r libreto a chyfarwyddo'r cynhyrchiad.

Er mwyn nodi dathliad 70 mlynedd Opera Cenedlaethol Cymru yn 2016, gwnaeth David gomisiynu a chyfarwyddo perfformiadau cyntaf dau opera, gan gynnwys In Parenthesis Iain Bell, i nodi hanner canmlwyddiant Brwydr Coed Mametz.  Ers ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru yn 2011, mae David wedi gwneud cyfraniad sylweddol at fyd ehangach y celfyddydau yng Nghymru, ac mae wedi annog sefydliadau celfyddydol i weithio mewn partneriaeth â'i gilydd.  Roedd David hefyd yn gadeirydd ar reithgor cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd yn 2015 ac yn 2017.

Yn ogystal â bod yn Gyfarwyddwr Celfyddydol Opera Cenedlaethol Cymru, mae David yn parhau i weithio ledled y byd fel cyfarwyddwr opera ar ei liwt ei hun, ac mae ei waith yn cael ei gydnabod a’i berfformio’n eang. Mae hefyd wedi hyrwyddo presenoldeb Opera Cenedlaethol Cymru dramor, yn arbennig yn Oman a Dubai, a nhw oedd cwmni opera cyntaf Prydain i berfformio yn Nhŷ Opera Newydd Dubai yn 2017.

Bydd y cwmni'n ymweld â Hong Kong yn 2018 i berfformio Pelléas a Mélisande yn yr ŵyl gelfyddydau enwog.