Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Dinasyddiaeth

Mae Chris Roberts yn ymgyrchydd ysbrydoledig sy'n gweithio'n galed i godi ymwybyddiaeth am y gwahanol fathau o ddementia.

Mae Chris, a ddaw o Ruddlan, ac sy'n briod a chanddo bump o blant, wedi byw bywyd gweithgar, ac mae ganddo brofiad helaeth mewn ystod o swyddi gwahanol, o ffermio, cloddio glo a gwerthiant, i fod yn berchen ar siop addasu beiciau modur a busnes rhentu eiddo.

Cafodd ddiagnosis o Ddementia Cymysg, pan oedd yn ddim ond 50 mlwydd oed, ac yntau eisoes yn byw gydag emffysema ac, yn fwy diweddar, arthritis hefyd. Ar y dechrau, dioddefodd Chris iselder dwys ar ôl cael ei ddiagnosis o ddementia, ond ar ôl ychydig fisoedd, sylweddolodd Chris mai'r un person ydoedd o hyd, a phenderfynodd peidio â gadael i'r salwch hwn ei ddiffinio. Ers hynny, gyda chefnogaeth ei wraig, Jayne, a'i deulu, mae wedi dod yn ymgyrchydd brwd ac yn eiriolwr ar gyfer pobl eraill sydd wedi'u heffeithio gan ddementia. Mae hefyd yn llais arweiniol sy'n siarad yn rheolaidd mewn cyfarfodydd a chynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae wedi bod yn rhan o ddwy ddogfen deledu gan BBC Cymru yn ymwneud â'i ddementia. Mae wedi sefydlu grŵp cymorth ar gyfer pobol sydd wedi'u heffeithio gan ddementia, sef Expert Dementia Group, ar gyfer Strategaeth Dementia Cymru, ac mae'n rhedeg y grŵp hwnnw. Mae hefyd yn gyd-sylfaenydd Gweithgor Dementia y Tair Cenedl (Three Nations Dementia Working Group), ac mae'n cynrychioli'r DU fel Is-gadeirydd ar y Gweithgor Ewropeaidd ar gyfer Pobl â Dementia. Cychwynnodd ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol, sef #handouthope, ac mae'n cynnal dau grŵp cymorth dementia ar Facebook. Yn rhinwedd ei rolau fel Llysgennad i Gymdeithas Alzheimer's, ac Eiriolwr i’r sefydliad, Dementia Research UK, mae Chris yn gweithio'n ddiflino i addysgu pobl, ac i annog y byd i ddeall, derbyn a bod yn fwy cynhwysol yn achos pobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia.