Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Diwylliant enillydd 2014

Cerys MatthewsMae Cerys wastad wedi bod yn fwy na dim ond seren roc; ei phrif uchelgais yw chwilio am y caneuon gwerin Cymreig mawr a dod o hyd i gynulleidfaoedd newydd iddynt tu hwnt i ffiniau Cymru. 

Yn ogystal â bod yn gyflwynydd ar gyfer "The One Show" BBC1 mae hi’n cynhyrchu ac yn cyflwyno ei sioe radio fore Sul unigryw ei hun ar BBC 6Music. Mae hi hefyd yn gwneud ac yn cyflwyno rhaglenni dogfen ar gyfer BBC2 a BBC Radio 2 a 4, yn fwyaf diweddar dwy raglan ar "M1 Cymru" ar gyfer Radio 4. Mae ganddi golofn fisol yng nghylchgrawn Songlines, ac mae hi'n ysgrifennu i The Guardian, The Times a'r Sunday Times. 

Mae hi’n awdur hefyd a cafodd ei llyfr i blant,"Tales from Deep," lwyddiant ysgubol, i’w ddilyn gan "Gelert, A Man’s Best Friend" cyn bo hir. Mae ei chariad am Gymru a cherddoriaeth Gymreig wedi ei helpu’n ddiweddar hefyd i arddangos Cymru i'r byd fel Cyfarwyddwr Artistig seremoni agoriadol cynhadledd WOMEX 2013 yng Nghaerdydd. 

Mae Cerys yn cefnogi ffurfiau eraill ar gelfyddyd Gymreig – mae'n noddwr Ballet Gymru a Chymdeithas Dylan Thomas ac yn feirniad Gwobr Dylan Thomas 2010 a 2012 ac yn Is-lywydd Shelter Cymru.