Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Dewrder

Roedd Ceri ac Aaron Saunders, o Three Crosses, Abertawe yn hollol anhunanol pan aethant i helpu rhywun oedd mewn trafferthion yn y môr ar Benrhyn Gŵyr.

Roedd y ddau yn treulio'r penwythnos ar wyliau gwersylla yn yr ardal a phan aethant am dro, gwelodd y fam a'i phlentyn fachgen deg oed yn cael ei ysgubo i'r môr yn y Pwll Glas, ger Bae Broughton.

Aaron, oedd yn bedair-ar-ddeg oed, geisiodd achub y bachgen gyntaf, ond roedd y cerynt yn rhy gryf iddo. Yna aeth Ceri i'w helpu. Roedd Ceri wedi dilyn cwrs hyfforddiant achub bywyd felly defnyddiodd ei gwybodaeth i achub y bachgen.

Gwnaeth Ceri yn siŵr bod y bachgen wedi tawelu, yn cadw ei ben uwchben y dŵr ac yn ddiogel tan i'r gwasanaethau achub gyrraedd. Cawsant eu hachub yn y diwedd gan RNLI Porth Tywyn a'u cludo gan hofrennydd i Ysbyty Treforys gan Wylwyr y Glannau ble y cafodd Ceri driniaeth am hypothermia.

Cafwyd cadarnhad gan yr RNLI bod y sefyllfa yn beryglus iawn a bod y bachgen yn lwcus i Ceri ac Aaron ymateb a'u bod wedi helpu i achub ei fywyd.

Mae pobl yn gyfarwydd â'r ffaith bod cerrynt peryglus yn y Pwll Glas ger Bae Broughton. Yn dilyn y digwyddiad, mae Ceri a mam y plentyn gafodd ei achub wedi bod yn ymgyrchu i osod arwyddion yn yr ardal i rybuddio pobl o beryglon mynd i'r môr.