Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Chwaraeon enillydd 2017

Fe gyrhaeddodd tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, dan arweiniad Chris Coleman, rownd gyn-derfynol EURO 2016. Nid yn unig hwn oedd y tro cyntaf ers 1958 i’r tîm gyrraedd rowndiau terfynol twrnamaint pwysig, ond fe orffennon nhw ar frig eu grŵp.

Roedd cyrraedd y rowndiau terfynol ynddo’i hun yn gamp heb feddwl llawer sut na beth oedd lle’r tîm yn EURO 2016 yn ei olygu. Fodd bynnag, buan iawn y codwyd gobeithion pawb yn dilyn y gêm agoriadol yn erbyn Slofacia; dangosodd buddugoliaeth o 2-1 i Gymru gyda gôl o gic rydd Bale o 30 llath a gôl hwyr o droed chwith Hal Robson-Kanu fod Cymru o ddifrif ynglŷn â’r gystadleuaeth.

Wrth i’r twrnamaint fynd rhagddo, fe gynyddodd y disgwyliadau; sicrhaodd Cymru eu lle yn y rowndiau hwyr ar ôl chwalu Rwsia yn Toulouse i ennill y grŵp. Fe arweiniodd buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn tîm angerddol Gogledd Iwerddon at dasg a oedd i’w gweld yn amhosibl; Gwlad Belg.

Dywedodd Chris Coleman fod gan ei dîm “fwy i’w roi”; profodd hyn yn wir wrth i Ashley Williams, Hal Robson-Kanu a Sam Vokes roi’r bêl yng nghefn y rhwyd mewn buddugoliaeth syfrdanol o 3-1 yn Lille. Dechreuodd holl gefnogwyr Cymru ddychmygu’r annychmygol. Roeddent bellach un gêm yn unig i ffwrdd o’r rownd derfynol.

Ar ôl colli o 2-0 yn erbyn Portiwgal roedd hi’n bryd i Gymru ei throi hi am adref, gan roi terfyn ar stori afaelgar a gyfareddodd nid dim ond cenedl, ond y byd.

Cafodd Joe Allen ac Aaron Ramsay eu henwi yn, nhîm swyddogol UEFA EURO 2016 y twrnamaint, a daeth y tîm yn ail yn rhestr y timau a sgoriodd y mwyaf o goliau (10 gôl), gyda dim ond y tîm a ddaeth yn ail yn sgorio mwy. Roedd hyn yn cael ei ystyried yn gamp aruthrol.

Bu’r garfan gyfan yn llysgenhadon o’r radd flaenaf ar ran Cymru, ar y cae ac oddi arno, ac mae eu his-bennawd “Gyda’n Gilydd yn Gryfach” wedi ysbrydoli’r genedl ac ennyn diddordeb pobl o amgylch y byd i gyd.