Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Dinasyddiaeth enillydd 2017

Pan oedd Cairn, o Rydaman, yn 17 oed dioddefodd drosedd casineb homoffobaidd. Ymosodwyd yn giaidd arno a gorfu iddo gael llawdriniaeth o ganlyniad. Yn hytrach na chanolbwyntio ar yr ochr negyddol, penderfynodd Cairn ymuno â’r Gwasanaeth Heddlu er mwyn iddo allu atal y math yma o ymosodiad rhag digwydd i eraill.

Pan drodd yn 18, fe ymunodd â’r Gwnstabliaeth Arbennig fel gwirfoddolwr a Chwnstabl Arbennig di-dâl gyda’r un pwerau ac iwnifform â Chwnstabl Heddlu rheolaidd. Mae hefyd wedi gwasanaethu fel Cwnstabl Arbennig, Sarjant Arbennig ac Arolygydd Arbennig ac yn fwy diweddar cafodd ei ddyrchafu i reng Prif Swyddog Arbennig Heddlu Dyfed-Powys, y rheng uchaf bosibl yn y Gwnstabliaeth Arbennig ac ef yw’r Prif Swyddog ifancaf yn y DU ac yntau’n 25 oed.

Mae’n neilltuo 40-50 awr y mis o’i amser sbâr i wasanaethu ei gymuned. Mae’n gyfrifol am dîm mawr o Gwnstabliaid Arbennig ac mae’n arwain ar ddefnyddio gwirfoddolwyr neu ddinasyddion ar gyfer plismona ledled ardal Dyfed-Powys yn ogystal â chymryd rhan mewn amryw ymgyrchoedd a mentrau gan yr heddlu. 

Mae Cairn yn eiriolwr brwd dros hawliau Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol (LGBT). Mae wedi’i hyfforddi’n Swyddog Cymorth Troseddau Casineb ac ef yw dirprwy arweinydd Rhwydwaith Staff Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol Heddlu Dyfed Powys ac mae hefyd wedi sefydlu prosiect Cymdeithasol a Chymorth Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol yn Sir Gaerfyrddin i fod yn gefn i bobl a’u cynghori.

Nid ei swydd fel Prif Swyddog Arbennig yw ei unig gyfrifoldeb. Ym mis Medi 2015 fe ailgydiodd yn ei addysg ac mae ar fin dechrau ar ei ail flwyddyn yn y Brifysgol yn astudio ar gyfer gradd BA yn y Gyfraith a Gwasanaeth Cyhoeddus. Mae Cairn hefyd yn gwirfoddoli gyda Chadetiaid yr Awyrlu Brenhinol a Chadetiaid yr Heddlu gyda’r nos yn ystod yr wythnos. Mae Cairn yn gwirfoddoli oherwydd ei ymdeimlad o ddyletswydd ac ymroddiad i hyrwyddo hawliau Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol ac i atal yr hyn a ddigwyddodd iddo ef rhag digwydd i’w gyd-ddinasyddion.