Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Person Ifanc

Mae Brittany Davies, o Abertawe, yn astudio ar gyfer ei chyrsiau Safon Uwch. Daeth yn Blentyn sy’n Derbyn Gofal pan oedd yn 16 oed ac er gwaethaf llawer o heriau sylweddol a dirdynnol y mae wedi'u profi yn ystod yr ymyriad hwn sydd wedi newid ei bywyd, mae wedi helpu a dod yn fodel rôl i eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.

Trwy ei Swyddog Adolygu Annibynnol ei hun, daeth i wybod am grŵp o Bobl Ifanc sy’n Derbyn Gofal sy’n cwrdd yn wythnosol i drafod a rhannu materion sy’n effeithio arnynt. Gwirfoddolodd 200+ awr o’i hamser i gwrdd â’r grŵp a bod yn rhan ohono, gan weithio’n ddiflino i sicrhau bod yr aelodau o’r grŵp yn cael eu cynorthwyo i oresgyn anfantais a mentora aelodau iau.

Mae Brittany wedi mynychu, llywyddu ac annerch nifer o ddigwyddiadau uchel eu proffil i helpu’r rhai sydd dan anfantais, er mwyn sicrhau bod y gymuned Plant sy’n Derbyn Gofal yn cael ei chynrychioli a bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Bydd yn aml yn ymuno â’r aelodau iau o’i grŵp i’w cynorthwyo i ddweud eu dweud mewn digwyddiadau o’r fath.

Mae’n benderfynol o greu dyfodol cadarnhaol iddi hi ei hun ac i ddilyn y llwybr i’w dewis yrfa mewn gwaith cymdeithasol, er mwyn gallu defnyddio’i phrofiadau hi ei hun i fod y gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau eraill.