Neidio i'r prif gynnwy

Bev PoldAm dros 12 mlynedd gyda Chwarae Teg, chwaraeodd Bev ran allweddol yn sicrhau bod rôl menywod yng Nghymru yn gwella ac yn symud ymlaen yn gyson. 

Er mwyn cyflawni hyn yn llwyddiannus bu’n arwain gwaith Chwarae Teg ar Fentergarwch.  Roedd Bev yn un o 9 enillydd Gwobr Menter y Frenhines 2009. Roedd hyn yn gydnabyddiaeth o’i chyfraniad sylweddol i hyrwyddo mentergarwch yng Nghymru ers 1984, yn enwedig ymysg menywod. 

Ers ymuno â Chwarae Teg yn 2001, mae Bev wedi arwain nifer o brosiectau uchelgeisiol i roi sgiliau busnes i fenywod a’u hannog i fentro i gymryd swyddi llai traddodiadol. Llwyddodd prosiect Menter Merched Cymru (2001-2006) i ymgysylltu â dros 2,500 o fenywod, gan ddarparu gweithdai, sesiynau cwnsela a chyfleoedd rwydweithio ledled Cymru er mwyn galluogi menywod i gymryd y cam cyntaf tuag at sefydlu eu busnesau eu hunain. 

Yn ddiweddar, chwaraeodd Bev rôl allweddol wrth gynllunio a datblygu prosiect Cenedl Hyblyg Chwarae Teg gyda dros £8 miliwn o arian Ewropeaidd.

Mae Bev bellach yn gweithio ar gyfleoedd newydd i fentro. Mae’n parhau yn ei rôl fel Is-gadeirydd Antur Teifi, yn cyfrannu at y grŵp polisi Women’s Enterprise UK, ac yn aelod o grŵp cynghori Prifysgol De Cymru, Menywod yn Ychwanegu Gwerth i’r Economi.