Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Chwaraeon enillydd 2018

Aled Siôn Davies yw pencampwr triphlyg y byd ac enillydd dwbl y fedal aur Paralympaidd ar gyfer y ddisgen a thaflu maen.

Yn wreiddiol o Ben-y-bont ar Ogwr, mae wedi bod yn fodel rôl ysbrydoledig i bobl ifanc o Gymru a gweddill y byd – fel pencampwr athletaidd y byd ac fel dyn ifanc sydd wedi ymdopi'n llwyddiannus ag anabledd. Ganwyd Aled ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 1991 gydag anabledd cyfunol o dalipese a hemi-hemilia yn ei goes dde. Oherwydd ei anabledd, mae'r defnydd sydd gan Aled o’i goes dde yn gyfyngedig iawn.  Magwyd Aled gan deulu a oedd yn dwli ar chwaraeon, ac mae wedi cymryd rhan mewn chwaraeon ers ei blentyndod, heb adael i'w anabledd ei ddal yn ôl byth. Yn 2005, gwahoddwyd Aled i Gaerdydd gan Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru i roi cynnig ar athletau gyda grŵp o Baralympiaid elît.

Dyma oedd yr adeg gyntaf i Aled godi maen taflu a disgen, ac roedd yn amlwg o'r cychwyn fod ganddo ddawn naturiol am daflu. Am y tro cyntaf yn ei fywyd, roedd Aled yn cystadlu ar gae chwarae cyfartal, ac yn canfod ei hun yn ffynnu yn yr amgylchedd newydd hwn. Aeth ymlaen i ennill medal aur ac efydd yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012, a medal aur yng ngemau Rio yn 2016. Aeth ymlaen i osod record byd newydd o 17.52m, gan ennill y wobr aur ar gyfer taflu maen F42 mewn Pencampwriaethau Para-athletau'r Byd yn Llundain. Ar ôl ennill y fedal aur ar gyfer y ddisgen F42, dyma yw'r drydedd adeg olynol i'r Cymro 26 mlwydd oed ennill buddugoliaeth yn y ddau ddigwyddiad sy'n rhan o'r gystadleuaeth.