Neidio i'r prif gynnwy

Mae enwebiadau ar gyfer 2024 wedi cau.

Mae 10 Gwobr Addysgu Proffesiynol, pob un ohonynt yn cael eu henwebu gan y cyhoedd.

Defnyddiwch y diffiniadau isod i'ch helpu i benderfynu pa gategori sydd fwyaf priodol ar gyfer eich enwebiad.

Categoriau

  • Pennaeth y Flwyddyn

Mae’r wobr hon yn cael ei neilltuo ar gyfer pennaeth sydd wedi bod yn eu ysgol/coleg am o leiaf tair blynedd. Yn cael ei dyfarnu i unigolyn sy’n gallu dangos ei fod yn abl i ysbrydoli eraill. Pennaeth eithriadol sy’n arddangos y gallu i ennyn diddordeb yr ysgol/coleg yn y gymuned, a diddordeb y gymuned yn yr ysgol/coleg er mwyn gwneud gwahaniaeth i bob dysgwr. Hefyd, darparu tystiolaeth o gefnogi cydweithwyr mewn ysgolion/colegau eraill.

  • Defnyddio'r Gymraeg mewn modd sy'n ysbrydoli

Mae’r wobr hon ar gyfer athrawon/darlithwyr neu staff eraill sydd wedi ysbrydoli dysgwyr a chydweithwyr yn eu hysgol/coleg i ddefnyddio a mwynhau’r Gymraeg. Gall enwebeion weithio mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, dwyieithog a Saesneg. Gallant ysbrydoli drwy’r broses ddysgu yn y dosbarth, drwy gydweithio â chydweithwyr a chyrff allanol neu drwy ddulliau arloesol eraill.   

  • Athro Newydd Eithriadol

Mae’r wobr hon yn cael ei neilltuo ar gyfer athrawon sydd yn eu hail neu trydedd blwyddyn o addysgu mewn ysgol. Yn cael ei dyfarnu i unigolyn sy’n dangos brwdfrydedd a dulliau ardderchog yn y dosbarth i gefnogi dysgu’r disgyblion a sicrhau canlyniadau eithriadol. Gan ddangos rhinweddau arweinyddiaeth cynnar, mae wedi ymrwymo i’w ddatblygiad proffesiynol ei hun er lles dysgwyr. Mae’n dangos technegau cydweithredol a dymuniad i arloesi i hyrwyddo dysgu effeithiol.

  • Athro’r Flwyddyn mewn Ysgol Gynradd

Yn cael ei dyfarnu i unigolyn sy’n arddangos rhinweddau athro eithriadol. Yn dangos tystiolaeth o ofal a chariad at y dysgwyr, a brwdfrydedd tuag at yr addysgu. Tystiolaeth o fod yn esiampl ardderchog i’r genhedlaeth iau, ymdrechu’n ddiorffwys i godi safonau a chael effaith gadarnhaol ar ddysgu’r disgyblion.

  • Gwobr y dysgwyr ar gyfer Athro/Darlithydd Gorau

Mae'r wobr hon wedi'i chynllunio er mwyn i ddysgwr (neu grŵp o ddysgwyr) presennol, neu gyn-ddysgw(y)r, enwebu athro/darlithydd sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i'w fywyd/bywydau yn yr ysgol/coleg.

Athro/darlithydd sydd wedi'ch ysbrydoli i ddysgu, wedi cynnig cyngor a chymorth mewn perthynas â'ch llesiant ac wedi'ch cymell i wneud eich gorau. 

  • Athro’r Flwyddyn mewn Ysgol Uwchradd

Yn cael ei dyfarnu i unigolyn sy’n arddangos rhinweddau athro eithriadol. Yn dangos tystiolaeth o ofal a chariad at y dysgwyr, a brwdfrydedd dros ei bwnc. Tystiolaeth o fod yn esiampl ardderchog i’r genhedlaeth iau, ymdrechu’n ddiorffwys i godi safonau a chael effaith gadarnhaol ar ddysgu’r disgyblion.

  • Cynorthwyydd Cymorth Dysgu

Yn cael ei dyfarnu i’r unigolion sydd wedi darparu cymorth rhagorol ac wedi cael effaith eithriadol ar yr addysgu a'r dysgu sydd yn yr ysgol.

  • Gwobr Betty Campbell MBE am hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol

Dyfernir y wobr hon i unigolyn, tîm neu ysgol/coleg sydd wedi dangos ymwybyddiaeth ardderchog o bwysigrwydd addysg gynhwysol fel rhan o gymdeithas sy’n wynebu ac yn mynd i’r afael â hiliaeth, ac a all ddangos tystiolaeth o gyflawni canlyniadau clir.

  • Darlithydd y Flwyddyn

Yn cael ei dyfarnu i unigolyn sy’n arddangos rhinweddau darlithydd coleg eithriadol. Yn dangos tystiolaeth o ofal a chariad at y dysgwyr, a brwdfrydedd dros ei bwnc. Tystiolaeth o fod yn esiampl ardderchog i’r genhedlaeth iau, ymdrechu’n ddiorffwys i godi safonau a chael effaith gadarnhaol ar ddysgu’r disgyblion.

  • Ymgysylltiad Dysgwyr yn yr Ysgol/Coleg

Dyfernir y wobr hon i unigolyn, tîm neu ysgol/coleg sydd wedi dangos agwedd ardderchog i wella ymgysylltiad a phresenoldeb dysgwyr, ac a all ddangos tystiolaeth o gyflawni canlyniadau clir.  

Sut i enwebu

Y ffordd rwyddaf o wneud enwebiad yw drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. Gallwch arbed eich gwaith a chyflwyno’r ffurflen pan fyddwch yn hapus â hi. Byddwch yn cael e-bost yn awtomatig i gadarnhau derbyn eich ffurflen ar ôl ichi ei chwblhau.

Os byddai well gennych gwblhau’r ffurflen enwebu all-lein, anfonwch e-bost at gwobrauaddygsu@llyw.cymru gyda’ch manylion cyswllt a’r categori perthnasol ar gyfer yr enwebai.

Pwy gewch chi ei enwebu

  • Gall enwebeion gynnwys athrawon cymwysedig/darlithwyr a staff cymorth dysgwyr ysgolion/colegau.
  • Mae pob athro llawn amser, rhan amser a pheripatetig, darlithwyr a chynorthwyydd addysgu yn gymwys i gael ei enwebu, gan gynnwys penaethiaid sy'n addysgu ac nad ydynt yn addysgu, prif swyddogion gweithredu ysgolion/colegau.
  • Gall ffurflen gais gael ei llenwi a'i chyflwyno gan rieni/gofalwyr, dysgwyr, penaethiaid a phrif swyddogion gweithredu colegau.
  • Ni chewch enwebu rhywun sydd wedi ymddeol neu a fydd yn ymddeol cyn diwedd mis Ebrill 2024 ar gyfer gwobr. 
  • Ni all y Gwobrau dderbyn enwebiad ar gyfer rhywun sydd wedi marw nac ar gyfer ymarferwr sydd wedi ymddeol. 
  • Ni chaiff unigolion enwebu eu hunain ar gyfer gwobr. 
  • Caniateir i Wobrau Addysgu Proffesiynol Cymru wahardd unrhyw enwebai ar unrhyw adeg yn ôl ei ddisgresiwn ei hun.

Awgrymiadau ar gyfer enwebu

  • Teipiwch eich enwebiad ar ffurf dogfen Word yn gyntaf. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i’w wirio a’i newid cyn copïo a gludo’r gwaith i’ch ffurflen. Byddwch yn arbed amser a bydd yn eich galluogi i gyfleu eich neges yn fwy eglur.
  • Os nad ydych yn adnabod y sawl yr ydych yn ei enwebu yn bersonol, rhowch cymaint o fanylion ag y gallwch, gan gynnwys manylion cyswllt, os yn bosibl. 
  • Dewiswch y categori cywir. Meddyliwch am y math o weithgareddau a/neu’r rolau y mae’r enwebai wedi rhagori ynddynt. 
  • Rhowch esiamplau da. Esboniwch bob tro sut y mae eich enwebai wedi llwyddo. Peidiwch â defnyddio haeriadau fel "Mae’r enwebai wedi gweithio’n galed gydol ei yrfa”; defnyddiwch dystiolaeth i esbonio beth mae’r enwebai wedi ei wneud.
  • Cofiwch esbonio: pwy ydyn nhw, beth yn union y maen nhw wedi’i wneud, a pham eu bod yn haeddu Gwobr Addysgu Proffesiynol Cymru. 
  • Peidiwch ag enwebu’r un person yn yr un categori fwy nag unwaith. Ni fydd nifer yr enwebiadau’n newid y canlyniad.

Prif ddyddiadau

  • 9 Ionawr 2024 - Dechrau’r cyfnod enwebu
  • 2 Chwefror 2024 - Diwedd y cyfnod enwebu
  • May 2024 - Cyhoeddi’r rhestr fer
  • Gorffennaf 2024 - Seremoni Wobrwyo

Beirniadu

Panel cenedlaethol o feirniaid sy’n dewis pwy sy’n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y 10 categori.

Cynrychiolwyr Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru fydd y beirniaid, yn gweithio gyda chynrychiolwyr o'r consortia rhanbarthol i wneud yn siŵr bod pob enwebiad yn cael y sylw llawn. 

Rôl aelodau’r panel yw beirniadu a sgorio’r enwebeion yn unol â’r meini prawf y cytunwyd arnynt. Bydd Llywodraeth Cymru’n cydgysylltu’r broses ac yn sicrhau bod y paneli beirniadu’n gweithredu mewn ffordd deg.

Bydd y panel yn cyfarfod i drafod yr enwebeion a bydd y rhestrau byr yn cael eu cyhoeddi yn Mai 2024.

Hysbysiad Preifatrwydd GDPR

Drwy gyflwyno eich ffurflen enwebu rydych chi'n cydsynio i'n hysbysiad preifatrwydd.  Ceir dwy ffurflen sy'n cyfeirio at yr enwebai a'r enwebydd.